Mab anghyfreithlon Henry Beaufort, 3ydd duc Somerset, a ddienyddiwyd gan blaid y Iorcaid (1463). Yr oedd yn bleidydd cryf i Harri Tudur a'i defnyddiodd, o'r adeg y dechreuodd deyrnasu fel Harri VII, o gylch y llys a thros y môr, gan ei dderbyn yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ar 14 Chwefror 1505. Y mae ei ddyrchafiad yng Nghymru yn dyddio o adeg ei briodas (2 Mehefin 1492) ag Elizabeth, merch ac aeres William Herbert (bu farw 1491), ail iarll Pembroke o'r greadigaeth gyntaf, a iarll Huntingdon wedi hynny; yn rhinwedd y briodas hon, ' jure uxoris,' mabwysiadodd Somerset, yn 1504, y teitl barwn Herbert Raglan, Chepstow a Gower. Yn y cyfamser (23 Ebrill 1496) cawsai ei wneuthur yn gomisiynwr 'array' dros Gymru, a rhwng 1503 a 1515 rhoddwyd iddo swydd stiward prif arglwyddiaethau y Goron yn y rhannau hynny o'r wlad a ddaeth wedyn yn siroedd Mynwy, Morgannwg, Maesyfed, a Threfaldwyn ac arglwyddiaeth Ruthinland, ynghyd â swydd cwnstabl y cestyll a oedd yn yr arglwyddiaethau hynny; ychwanegodd Harri (a oedd yn parhau i ddefnyddio Somerset dros y môr) at y rhai uchod deitl siryf Glamorgan a Morgannwg (1509) a phrif fforestydd Glamorgan, Rhuthyn, a Threfaldwyn (1515). Yn dâl am ei wrhydri yn Tournay (1513) gwnaethpwyd ef yn iarll Worcester (10 Tachwedd 1513 neu 1 Chwefror 1514). Rhoes siarter i Chepstow ar 2 Rhagfyr 1525. Bu farw ar 15 Ebrill 1526 a chladdwyd ef yng nghapel Beaufort yn Windsor.
Dilynwyd Charles Somerset yn y rhan fwyaf o'i swyddi Cymreig gan ei fab hynaf, Henry. Treiddiodd dylanwad y teulu i orllewin Cymru pan ddaeth ef yn stiward a changhellor Aberhonddu ac yn gwnstabl ei chastell (26 Mai 1523); gwnaethpwyd ef hefyd yn brif farnwr teithiol Casnewydd-ar-Wysg, Gwynllwg, a Machen, sir Fynwy (22 Gorffennaf 1534) a Glamorgan i gyd; cadarnhawyd ei hawliau yn y cylch hwn mewn modd pendant gan Ddeddf Uno Cymru a Lloegr (27 Henry VIII, cap. 26, adran 33). Cafodd hefyd, pan ddiddymwyd y mynachlogydd lleiaf, y tir y safai abaty Tintern arno. Ychydig o enwogrwydd gwleidyddol ei dad oedd yn perthyn iddo y tu allan i Gymru, fodd bynnag. Bu farw 26 Tachwedd 1549 a chladdwyd ef yn Chepstow; coffeir ef mewn marwnad gan Lewys Morgannwg.
Aer Henry Somerset. Yr oedd ganddo safle o urddas yn llysoedd Edward VI, Mari, ac Elisabeth; ymunodd yn y cynllwynion yn erbyn 'Protector' Somerset ac yn ei brawf, gan ddefnyddio yn y symudiadau hyn wasanaeth William Cecil, arglwydd Burghley wedi hynny. Yr oedd hefyd yn un o farnwyr dug Norfolk (1572) a Mari frenhines y Sgotiaid (1586), aeth i Baris ar neges arbennig yn 1573, a chynullodd y milwyr gwladol yn erbyn y bygwth gan Sbaen yn 1588. Rhoddwyd ef ar gyngor goror Cymru yn 1553 ac yr oedd yn gomisiynwr 'musters' yn sir Fynwy yn 1579. Eithr pan adfywiwyd iarllaeth Pembroke (1551) ym mherson William Herbert (bu farw 1570), aeth rhan fwyaf y swyddi a ddelid gan iarll Worcester 1af a'r ail iarll yn Ne Cymru a'u holl ddylanwad yng nghanolbarth a Gogledd Cymru yn ôl eilwaith i deulu Pembroke. I feirdd Gwent, fodd bynnag, yr oedd 3ydd iarll Worcester yn ' tew Wilym o Went ' a dywedodd Dafydd Benwyn amdano mewn marwnad ' traw yn un a Harbord trwy'n iaith.'
Mab hynaf y 3ydd iarll. Llwyddodd i adennill peth o ddylanwad y teulu yng Nghymru; yr oedd hefyd yn wr mawr mewn ystyr wleidyddol yn Lloegr. Gwnaethpwyd ef yn aelod o gyngor goror Cymru y flwyddyn ar ôl iddo ddyfod yn iarll (16 Rhagfyr 1590), a phan fu ail iarll Pembroke farw yn 1601 llwyddodd i drefnu nad oedd siroedd Mynwy a Morgannwg (lle y daeth yn arglwydd raglaw, 17 Gorffennaf 1602) i'w cynnwys yn y comisiwn a roddwyd i olynydd Pembroke yn Llwydlo. Yn wahanol i Brotestaniaeth filwriaethus ei gydymgeiswyr pwerus, parhaodd ef i fod yn 'stiff Papist ' o dan Elisabeth, a ymddiriedai ynddo ac a roes iddo, wedi cwymp ail iarll Essex - cymerth Somerset ran ym mhrawf Essex - swydd meistr ceffylau'r frenhines a ddelid gan Essex ynghyd â sedd ar y Cyfrin Gyngor (29 Mehefin 1601). Ymddengys iddo gydffurfio o dan Iago I (Hist. MSS. Com., Cecil, xvii, 304-6), a'i rhoes ar gomisiynau arbennig - i ddifodi Pabyddiaeth yn Ne Cymru a'r goror (Mai-Awst 1605), i alltudio'r Jesiwitiaid (5 Medi 1604), i brofi cynllwynwyr Brad y Powdr Gwn (1605-6) a Raleigh (Awst 1618) - ac a'i gwnaeth hefyd yn arglwydd y sêl breifat (2 Ionawr 1616) ac yn farnwr yn llys y 'requests' (7 Chwefror 1621). Yr oedd yn 'politique' o flaen pob dim; cyflogodd Gymro o Brotestant, Dr. Thomas Prichard, un o ohebwyr James Howell, yn athro i'w blant, tra ar yr un pryd caniatâi i Robert Jones (1546 - ?), 'Superior' yn urdd y Jesiwitiaid, fyw o dan nodded ei wraig yn Raglan; eithr dilynodd ei blant i gyd grefydd eu mam. Dywedodd Thomas Williems o Drefriw, y geiriadurwr, amdano: ' Ni rusia ddywedyd Cymraec, a'i hymgeleddu, a'i mawrhâu yn anwylgu Frytanaidd.'
Ail fab (eithr yr hynaf a oroesodd) y 4ydd iarll. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen. Fel arglwydd Herbert o Chepstow, gwnaethpwyd ef yn ddirprwy-raglaw sir Fynwy (17 Gorffennaf 1602), rhoddwyd ef ar gyngor goror Cymru (1617), a bu yn gysylltiol â'i dad, yn dal swyddi arglwydd-raglaw siroedd Morgannwg a Mynwy o 2 Rhagfyr 1626. Protestant ydoedd yn ei ieuenctid cynnar, ond dychwelodd at hen ffydd y teulu pan oedd yn teithio yn Ewrop (yn gwneuthur y 'grand tour'); eithr lluddiwyd ei ymdrechion i ddilyn esiampl ei dad - sef i ddal y ddysgl yn wastad rhwng y ddwy grefydd a broffesid yn ei gartref gan ei wasanaethyddion - gan wres cynyddol y ddwyblaid. Er mwyn boddio teimladau'r Protestaniaid perswadiodd Siarl I ef, pan ddaeth iarll Bridgewater yn llywydd y cyngor yn Llwydlo (1631), i drosglwyddo ei swyddi fel arglwydd-raglaw i'r llywydd newydd (11 Gorffennaf), a chadwodd ef rhag llenwi swyddi cyhoeddus, gan adael iddo yn wastadol, fodd bynnag, ddeall ei fod yn teimlo'n serchus tuag ato, a rhoddi iddo, yn ystod y ' Bishops' wars,' ollyngdod ynglyn â rhai deddfau arbennig, yn cynnwys yr hawl iddo ef (ac i'w fab) i ddwyn arfau (25 Mawrth 1639). Yr adeg hon daeth gorchmynion pellach oddi wrth y brenin i'r dirprwy-raglawiaid yn peri iddynt eu gosod eu hunain o dan awdurdod a ddeuai iddynt o Raglan (17 Gorffennaf 1640) ynghyd â'r negesau llafar, llawn o ddirgelwch, a ddaeth at Worcester trwy ei fab (isod) wedi hynny (Awst 1641 - Mai 1642), a pharodd hyn oll i bobl gredu'r sibrydion a oedd ar gerdded fod byddin Babyddol Gymreig ('Welsh popish army') i ymuno â goresgynwyr Pabyddol o Iwerddon; a sonnid llawer am y peth pan oeddid yn dadlau yn Nhy'r Cyffredin (yn y Senedd Faith) yn achos Strafford; yr oedd aelodau seneddol o Gymru yn sôn yn ddifloesgni am eu hofnau - yr oeddent hwy yn ddrwgdybus iawn o Raglan oherwydd i dy i'r Jesiwitiaid gael ei sefydlu yn Cwm (10 Tachwedd 1637) o dan nawdd Raglan a bod 'gwrthodwyr' adnabyddus fel Hugh Owen, Gwenynog (ganwyd c. 1575), ysgrifennydd Worcester, a'r bardd Gwilym Puw, yn tyrru yno.
Pan dorrodd y Rhyfel Cartref allan bu llawer o dyrru i blaid Raglan gan gymdogion y teulu - yr oedd teulu Pembroke wedi colli ei ddylanwad ymhlith y bobl hyn oherwydd natur wibiog ei wleidyddiaeth a'i duedd i gadw draw rhagddynt, tra yr oedd Worcester, ar y llaw arall, yn cadw draw rhag y Llys ac yn byw, megis patriarch, ymysg y bobl hyn. Gwnaeth Charles ef yn ardalydd (2 Tachwedd 1642), addawodd iddo stadau Pembroke ym Mynwy (2 Rhagfyr 1642), a dewisodd ef yn llywiawdr Raglan (20 Gorffennaf 1644); yn gyfnewid am hyn caniataodd Worcester i'w fab roddi ffortiwn y teulu, a oedd yn werth tua £24,000 y flwyddyn, at wasanaeth y brenin. Eithr parodd cynlluniau ei fab (isod), a oedd yn peri i bobl lynu'n gryf wrth eu hen ofnau y byddai glaniad o Iwerddon yng Nghymru, i'r teimlad lleol droi yn erbyn y teulu unwaith yn rhagor (yn enwedig ymysg y bobl yr oedd iddynt gysylltiad â theulu Pembroke) fel y gwelwyd pan ddaeth y brenin ddwywaith i Raglan (Gorffennaf a Medi 1645) ar ôl brwydr Naseby i geisio codi rhagor o filwyr. Yn gynnar yn 1646 gwarchaewyd yn glos ar Raglan a bu Worcester, yn rhinwedd ei swydd fel arglwydd-raglaw sir Fynwy, yn trefnu i amddiffyn y castell ac yn talu treuliau'r amddiffyn hwnnw â'i arian ei hun; ar yr un pryd byddai'n gwneuthur ambell gyrch ar Gaerlleon (26 Ionawr) a rhai o ganolfannau eraill y Pengryniaid yn y gymdogaeth. Wedi iddo, mewn modd trahaus, wrthod galwadau i ildio a wnaethpwyd arno gan Thomas Morgan (1604 - 1679) ym mis Mehefin a chan Fairfax ym mis Awst, ildiodd i Fairfax ar 17 Awst ar delerau a drefnai fod y gwarchodlu yn ddiogel eithr a'i gosodai ef ei hun at drugaredd y gelyn. Yr oedd eisoes yn hen ac yn wael, a bu farw yn garcharor, c. 18 Rhagfyr 1646; rhoddwyd iddo gladdedigaeth wladwriaethol (yn ôl gwasanaeth y Presbyteriaid) yng nghapel Beaufort yn Windsor. Buasai ei gaplan, Thomas Bayly, gydag ef hyd y diwedd, a chyhoeddodd hwnnw, yn 1649, hanes dadleuon ar grefydd a fu rhwng yr ardalydd a'r brenin yn Raglan o dan y teitl Certamen Religiosum; cyhoeddodd hefyd, yn 1650, Worcester's Apothegms. Disgrifia Anthony Wood (Athenae Oxonienses, iii, 200) ef fel 'a great compromiser, a wise man, and above all a person of great and sincere religion.' Yn ôl Clarendon credid ei fod 'the greatest Money'd Man of the Kingdom'; yr oedd symiau mawr o'i arian wedi eu gosod ar fenthyg yn nhair sir Brycheiniog, Caerfyrddin, a Phenfro, heblaw aur a thlysau a guddiasid at wasanaeth ei wyr, dug Beaufort wedi hynny; cymerodd y Senedd feddiant o'i eiddo o 1645 ymlaen er mwyn talu treuliau y rhyfel yn Iwerddon a defnyddiwyd ei gartrefi yn Llundain at wasanaeth y wladwriaeth.
Mab hynaf yr ardalydd cyntaf. Magwyd ef yn Gatholig a chafodd ei addysgu dros y môr - nid yng Ngholeg Magdalen fel ei dad a'i bedwar ewythr. Pan oedd yn arglwydd Herbert ('o Raglan') gosodwyd ef ar gyngor goror Cymru (12 Mai 1633), gwnaethpwyd ef yn ddirprwy-raglaw yn sir Fynwy (Tachwedd 1635), a rhoddwyd iddo gomisiwn godi milwyr yn erbyn y Sgotiaid yn y ' Bishops' Wars.' Achosodd hyn ddrwgdeimlad ymysg Cymry Protestannaidd - drwgdeimlad a gyrhaeddodd ei uchafbwynt pan dorrodd y gwrthryfel allan yn Iwerddon ym mis Tachwedd 1641 (serch i Herbert gynnig rhoddi arian tuag at ei ddiddymu) ac eilwaith, pan dorrodd y Rhyfel Cartref allan, ac y rhoes Siarl ef ar gomisiwn codi milwyr yn sir Fynwy. Yn ôl amcan-gyfrif a wnaeth y rhoddwr yn nes ymlaen, 'benthyciodd' i'r brenin tua £100,000 at godi a chynnal milwyr. Datganodd y Senedd ei fod yn ' elyn y cyhoedd ' (Medi 1642), a mynnodd hi, pan oedd yn trin telerau gyda'r brenin yn nes ymlaen (e.e. yn Chwefror 1643) gael ei symud o'i swydd. Cynigiodd gadw sir Fynwy rhag pleidio'r naill ochr na'r llall, a symudodd stôr adnoddau tân milwrol y sir o Drefynwy (ei dref ef ei hun) i Gaerlleon, yn nhiriogaeth Pembroke (symudodd ef y stôr i Raglan yn fuan wedi hynny), eithr ni thyciodd hyn ddim gyda'i elynion, ac aeth rhagddo i godi, ar ei gost ei hun, ac arwain, a 'dodrefnu,' 1,500 o wyr traed a 500 o wyr ar feirch heblaw gofalu am warchodluoedd yn Raglan, Casgwent, Trefynwy, a Chaerlleon. Eithr yr oedd i ffwrdd (a'i frawd, yr arglwydd John Somerset, yn parhau yn ddiegni) pan ddinistriwyd y rhai hyn gan Waller (24 Mawrth 1643). Gwnaeth ei orau i gasglu gweddillion y gwarchodluoedd ynghyd i ymdrechu rhwystro Waller rhag mynd rhagddo i lwyddo ymhellach yn Ne Cymru, eithr yr oedd cymaint o eiddigedd tuag ato ymhlith ei gydweithwyr oblegid ei grefydd a'r rhyddid mawr a ganiatáwyd iddo yn ei gomisiwn diweddaraf (4 Ebrill 1643) nes peri iddo roi i fyny'r hawl i fod yn bennaeth milwrol yn Ne Cymru o blaid gwasanaeth yn Iwerddon; yno byddai ei grefydd a'i wraig Wyddelig (merch iarll Thomond) o gymorth iddo.
Yn ôl dogfen dan y dyddiad 1 Ebrill 1644, awdurdodwyd ef i godi dwy fyddin o 10,000 yr un yn Iwerddon (y naill i lanio yng Ngogledd Cymru a'r llall yn y De), a chodi byddin arall ar y Cyfandir, trwy drefniant â'r Llywodraethau Catholig, i lanio yn King's Lynn. I'r diben hwn, rhoddwyd iddo alluoedd a oedd bron yn frenhinol (e.e. creu barwniaid), y teitl o iarll Glamorgan (ond ni chadarnhawyd hwn), a'r addewid y câi ddugiaeth Somerset. Ond nid yw haneswyr yn unfarn ar ddilysrwydd y ddogfen hon (gweler Gardiner yn E.H.R., ii, 687-704 ac yn Civil War, ii, 166 et seq., a Round yn Studies in Peerage, 367-434), nac ychwaith ar faint yr awdurdod a roddwyd iddo i helpu Ormond yn ei drafodaethau a'r cynghreiriaid Catholig yn Iwerddon. Yn fuan ar ôl iddo lanio yn Iwerddon (Mehefin 1645) cafodd addewid o help milwrol (cytundebau 25 Awst, 3 Medi, a 20 Rhagfyr) yn gyfnewid am addewidion o'i ran yntau a oedd mor eang eu natur nes y bu i Ormond ei gymryd i'r ddalfa fel bradwr (26 Rhagfyr) ac i Siarl ei ddi-arddel (29 Ionawr 1646) pan ddeallwyd beth oedd telerau y trefniant. Pan ryddhawyd ef ceisiodd achub y blaen ar Ormond trwy weithio tros Siarl (a oedd yn parhau i fod mewn cyswllt ag ef) gyda chynrychiolydd y pab, eithr ni pharhaodd gyda hyn yn hir eithr mynd i Paris ym Mawrth 1648. Ad-dalodd y Senedd iddo trwy ddatgan ei fod yn ei alltudio a chynnwys ei stadau yng ngweithred seneddol 1651 a oedd yn delio â thiroedd 'delinquents,' eithr gydag un eithriad, sef cadw at wasanaeth yr aer, pan ddeuai'r stad i'w feddiant, y tiroedd hynny nas gwerthwyd eisoes (e.e. gwerth £1,700, yn cynnwys Casgwent a Gwyr), a roddasid i Cromwell, a gadarnhaodd, yntau, yn ei dro, y prydlesoedd a ddelid er 1648 gan y cyrnol Philip Jones a grantiau llai i Hugh Peters. Wedi iddo orfod dychwelyd gartref ym mis Gorffennaf 1652, oblegid ei dlodi, carcharwyd Glamorgan yn Nhwr Llundain, o 28 Gorffennaf hyd nes y'i rhyddhawyd, dan feichiafon, ar 5 Hydref 1654, wedi iddo yn y cyfamser (26 Gorffennaf 1653) gael caniatáu iddo, gan Cromwell, bensiwn o £3 yr wythnos yn deillio o stadau Raglan. Wedi'r Adferiad bu pwyllgor o Dy'r Arglwyddi yn ystyried ei hawl i ddugiaeth Somerset (Medi 1660), eithr dewisodd yntau beidio a pharhau i'w hawlio am na allai gydsynio â'r amodau a oedd yn ddealledig ynglyn â'r cais. Yr oedd iddo fwy a fynnai a'i eiddo personol; maentumiai ef iddo golli o'r eiddo hwnnw swm yn agos i filiwn o bunnau - y colledion a gawsai yng nghyfnod yr ' Interregnum,' ei lafur di-dâl yn Iwerddon a lleoedd eraill, heblaw'r arian benthyg y methodd y Goron eu talu yn ôl. Ni waredwyd mohono ychwaith rhag cael ei flino, yn ei fisoedd olaf, gan fenthycwyr ac eraill, gan ei ymdrechion gobeithiol fel dyfeisydd a ddisgrifir yn ei Century of Inventions, a ysgrifennwyd yn 1655 ac a gyhoeddwyd yn 1663. Bu farw yn sydyn, yn Llundain, 8 Ebrill 1667, a chladdwyd ef yn eglwys Raglan. Barn Clarendon amdano (ac nid oedd ef yn dyst cyfeillgar) oedd ei fod yn ddyn a gerid gan lawer ac na chaseid ond gan ychydig iawn.
Mab hynaf yr 2il ardalydd. Credid iddo fod yn gwasnaethu ei dad yn yr ymladd o gylch Caerloyw yn 1643, eithr tynnwyd yn ôl, ym mis Mehefin 1651, y cyhuddiad o fod yn 'delinquent' a ddygwyd yn ei erbyn ym mis Rhagfyr 1650, oherwydd, y mae'n debyg, ei fod bellach wedi troi'n Brotestant ac wedi dechrau dygymod â'r drefn newydd. Yn ddiweddarach yn 1651 bu'n trefnu i werthu i cyrnol Philip Jones werth £1,600 o stadau'r teulu yn Sir Forgannwg, gan gael ei dad i gydsynio yn 1656. Yr oedd ar delerau da gyda Cromwell (a oedd yn caniatáu iddo dderbyn arian o'i diroedd yn Sir Forgannwg) ac o blaid y Ddiffynwriaeth - gan fyned mor bell hyd yn oed â defnyddio'r dull newydd sifil o weinyddu priodasau - eithr nid oes dystiolaeth i'r gred iddo gynrychioli sir Frycheiniog (Williams, The parliamentary history of the principality of Wales) na Worcester (D.N.B., liii, 242) yn Senedd 1654. Wedi marw Oliver Cromwell bu'n gweithio i gael teulu Stuart yn ôl i'r orsedd, gan roddi cymorth i wrthryfel Booth ym mis Gorffennaf 1659 (a chael ei garcharu am hyn yn Nhwr Llundain hyd fis Tachwedd) a chynrychioli sir Fynwy yn Senedd y 'Convention' (Ebrill 1660), a'i danfonodd ef, yn un o 12 comisiynwr, i hebrwng Siarl II adref o Holand. Gallodd sicrhau (mewn modd a gyfrifwyd gan ei dad yn anonest) i diroedd y teulu a aethai i feddiant Cromwell ddyfod yn ôl i feddiant y teulu eithr gan na ellid byw yn Raglan mwyach symudodd gartref y teulu i Badminton (a etifeddasid o gangen gyfochrog o'r teulu). Bu'n byw yno gyda rhwysg brenhinol, gan groesawu Siarl II i'w blasty yn 1663, Iago II yn 1685, a William III yn 1690. Eithr hyd ddiwedd y 19eg ganrif yr oedd naw rhan o bob deg o diroedd y teulu yng Nghymru, gyda dau blasty yn sir Fynwy ac un yn sir Frycheiniog, a hawliau a breiniau maenorol mewn tair sir, tra yr oedd eu hen gydymgeiswyr, teulu Pembroke, oherwydd eu modd gwastrafflyd o fyw, yn gorfod gwerthu eu tiroedd yng Nghymru. Gwelir adnewyddiad urddas a dylanwad teulu Somerset nid yn unig pan oedd yr arglwydd Herbert yn parhau i gynrychioli sir Fynwy yn y Senedd hyd y bu iddo etifeddu fel ardalydd (1667), eithr hefyd yn y dylanwad lleol nerthol a barodd iddo gael ei ddewis (30 Gorffennaf 1660) yn arglwydd-raglaw sir Fynwy, sir Gaerloyw, a sir Henffordd ac yn gapten milisia, a'r hawl ganddo hefyd i ddodi gwarchodlu yng Nghasgwent. Ar 19 Mawrth 1672 daeth yn llywydd cyngor goror Cymru, yn arglwydd-raglaw tywysogaeth Cymru i gyd a'r goror, yn aelod o'r Cyfrin Gyngor (17 Ebrill), gan gadw'r swydd honno pan aildrefnwyd y Cyfrin Gyngor ar ffurf gynrychioladol yn 1679. Anaml iawn yr ymwelai â Llwydlo; gwnâi ei waith fel llywydd o'i gartrefi yn Badminton neu Chelsea trwy ohebu â'i ddirprwy-raglawiaid. Gwnaeth ddefnydd o'i awdurdod, megis y gwnaethai ei hynafiaid, i ymladd yn erbyn pleidiau a phleidgarwch ac i gryfhau awdurdod y Goron a'r Eglwys, er nad oedd yn rheoli'n unbenaethol (gweler e.e. ei wrthwynebiad i ddibennu'r Senedd yn 1679, yn E.H.R., xxxvii, 50). Fel gyda'i hynafiaid hefyd, daeth amryw o bobl yn ddrwgdybus ohono, i raddau helaeth, oblegid ei berthnasau Pabyddol yng nghastell Powis a'i gyfeillgarwch â'r dug Iorc, Iago II wedi hynny (Hist. MSS. Comm., 14 th R., ix, 370; Ormond, n.s. iv, 459; vi, 262; Popham, 258).
Yn ei gymdogaeth ei hun fe'i gwrthwynebid yn gryf gan John Arnold a Syr Trevor Williams, gwyr yr oedd ganddynt achosion cwyno, y naill ynghylch Fforest Wentwood (lle yr oedd yr ardalydd yn ddiwyd i'w ryfeddu gyda'r gwaith o doddi haearn), a'r llall ynghylch gwarchodlu Casgwent. Tynnodd Worcester enw Arnold ac enwau saith eraill o'i elynion allan o restr ynadon heddwch sir Fynwy yn 1678 a threfnodd i symud Williams a 24 eraill o ynadon Cymreig yn ystod 'carthiad' a wnaethpwyd gan y Cyfrin Gyngor yn 1680. Talodd Arnold y pwyth yn ôl trwy drefnu i gael bwrdeisdrefi Casnewydd-ar-Wysg a Brynbuga i wrthweithio yn erbyn gadael iddo ddefnyddio Trefynwy fel bwrdeisdref 'boced' a thrwy hynny lwyddo i ddiseddu ei fab (ar ôl petisiynu, 26 Tachwedd 1680) fel cynrychiolydd seneddol y fwrdeisdref, tra yr oedd Williams wedi cymryd y sedd dros y sir oddi arno yn yr etholiad ddiwethaf. Yn gynnar yn 1681 ymunasant â Syr Rowland Gwynne i wthio trwy Dy'r Cyffredin 'erfyniad' yn gofyn am iddo gael ei alltudio o'r llys a'r Cyfrin Gyngor a cheisio hefyd (eithr methu) gael pasio mesur seneddol gyda'r amcan o 'taking away Lord Worcester's Ludlow court for Wales ' fel rhywbeth a oedd yn 'too great a trust.' Ateb Siarl II oedd gwneuthur Worcester yn ddug Beaufort (2 Rhagfyr 1682), tra y rhoes y dug newydd daw ar Williams ac Arnold trwy gael iawn trwm yn eu herbyn am ' scandalum magnatum ' (Tachwedd 1683) ac enillodd ei fab (a oedd yn awr yn ardalydd Worcester) ei sedd yn sir Fynwy yn ôl a'i chadw hyd 1688. Er mwyn cadarnhau effaith ei fuddugoliaeth aeth Beaufort ar daith ('progress') fel cynrychiolydd y brenin trwy'r wlad yr oedd yn llywydd ei chyngor (14 Gorffennaf - 21 Awst 1684). Adnewyddodd Iago II y llywyddiaeth (28 Mawrth 1685), gwnaeth Beaufort yn gyrnol byddin o wyr traed, a gofynnodd am ei gymorth i rwystro math o wrthwynebiad gwleidyddol yn sir Ddinbych ym mis Mawrth 1685, i gynnal Bryste yn erbyn duc Monmouth ym mis Mehefin, ac i gael Cymru i dderbyn y Declarasiwn Goddefiad yn 1687; eithr aflwyddiant fu cyfarfod o wyr tiriog lleol a gynullwyd i Lwydlo gyda'r amcan hwnnw a bu raid 'carthu' rhagor o ustusiaid heddwch, swyddogion milisia, a chynrychiolwyr bwrdeisdrefi. Er i'r dug alw'n ôl y gorchymyn i 'garthu' (Medi hyd Hydref 1688) a'i fod yn dadlau y dylid galw'r Senedd ynghyd (Rhagfyr), methodd Cymru yn y diwedd ei alluogi ef i gyflawni'r addewid a wnaethai ef y codid 10,000 o wyr ynddi i ymladd yn erbyn William o Orange; ni lwyddodd ef ychwaith, y tro hwn, i ddal Bryste dros Iago. Er ei fod ef o blaid dewis William i deyrnasu dros arall ('regent') yn hytrach nag fel brenin, fe gymerth y llw iddo fel William III, fodd bynnag, a hynny braidd yn ddiweddar, ym mis Mawrth 1689, eithr rhoddwyd ei swydd yn Llwydlo i iarll Macclesfield; ychydig o ran a gymerth mewn gwleidyddiaeth a'r ychydig hwnnw gyda'r wrthblaid. Bu farw yn Badminton, 21 Ionawr 1700, a chladdwyd ef yng nghapel Beaufort yn Windsor. Collodd ei fab hynaf, CHARLES SOMERSET (1660 - 1698), 4ydd ardalydd Worcester, ei gomisiwn yn y fyddin (Mai 1687) am helpu i lunio'r petisiwn gan y Senedd (Tachwedd 1685) a anogai ddiswyddo ' popish officers '; fe ymunodd â'r tywysog Orange yn gynnar ym mis Rhagfyr 1688, eithr cafodd ei ladd mewn damwain i'r cerbyd yr oedd yn trafaelio ynddo yng Nghymru ym mis Gorffennaf 1698, ac aeth y ddugiaeth i'r ail fab, HENRY SOMERSET (1684 - 1714), yr ail ddug felly; yr oedd ef yn Dori mwy eithafol eithr cadwodd draw rhag bywyd gwleidyddol nes y daeth adwaith Torïaidd 1710.
Er na welwyd mo bwysigrwydd mawr y dug cyntaf trwy gydol Cymru yn cael ei adnewyddu gan ei olynwyr, yr oedd maint a chynnydd parhaol tiroedd y teulu a'u cyfoeth yn peri bod eu dylanwad yn parhau yn ne-ddwyrain y wlad. Y mae'r teulu, fel rheol, wedi rhoddi arglwydd-raglawiaid i sir Fynwy, ac weithiau i sir Frycheiniog hefyd, heblaw eu bod yn aelodau seneddol Torïaidd o 1805 hyd 1874, heb ball, dros sir Fynwy; rhoes y bwrdeisdrefi hefyd y cyfle cyntaf, o 1799 hyd 1831, i aelodau'r teulu i fyned i'r Senedd. Yn 1799, fodd bynnag, llwyddodd Casnewydd-ar-Wysg, a oedd yn awr yn datblygu mewn ystyr fasnachol a'r dylanwad dugaidd bob amser yn llai arni nag ar y bwrdeisdrefi eraill, gyda chymorth Syr Charles Morgan, Tredegar, i wrth-ddadlau hawl y 5ed dug, HENRY SOMERSET (1744 - 1803), i fod yn berchennog ei chei a thaflodd Trefynwy hithau hefyd ymaith ddylanwad arglwyddiaethol y 6ed dug, HENRY CHARLES SOMERSET (1766 - 1835), yn 1818. Rhoddwyd her i'w fab ef yn etholiad y fwrdeisdref i Senedd 1820 eithr yn ofer - fe gofir yr etholiad arbennig hon oblegid i John Frost, a ddaeth yn adnabyddus wedi hynny fel siartydd, bleidio'r her; yn 1831 diddymwyd dylanwad teulu Beaufort yn y bwrdeisdrefi gan yr ymgeisydd a oedd o blaid y gwelliannau a gafwyd yn y Reform Act (1832), sef Benjamin Hall, a ddaeth yn arglwydd Llanover yn ddiweddarach; collodd Hall ei sedd wedi i betisiwn gael ei ystyried, y mae'n wir, eithr etholwyd ef am yr ail dro yn 1832. O dan nawdd y ddau ddug hyn aeth gweithio haearn a glo ar stadau Beaufort, gwaith a ddygasai incwm cyson i'r stad er yr 17eg ganrif, ar gynnydd yn gyflym. Ychwanegwyd at ddylanwad y teulu yn sir Fynwy pan brynodd y 5ed dug arglwyddiaethau Usk a Trelech, hen arglwyddiaethau teulu Pembroke. Yn 1901, fodd bynnag, gwerthodd HENRY ADALBERT WELLINGTON FITZROY SOMERSET (1874 - 1924), y 9fed dug, stad Raglan (ar wahân i'r castell) i'r Goron, a'r breiniau maenorol i'w berthynas, yr arglwydd RAGLAN, wyr FITZROY JAMES HENRY SOMERSET (1788 - 1855), yr arglwydd Raglan 1af, mab ieuengaf y 5ed dug Beaufort; enillodd yr arglwydd Raglan 1af enwogrwydd fel milwr, bu'n gwasnaethu o dan y dug Wellington yn y rhyfeloedd yn Sbaen ac yn Waterloo, priododd or-nith y dug hwnnw, dilynodd ef fel pennaeth ('commander-in-chief') byddin Prydain, a bu'n arwain lluoedd Prydain yn rhyfel y Crimea hyd nes y bu farw ar faes y frwydr ar 28 Mehefin 1855.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.