Ganwyd 25 Mai 1784, mab John a Sarah Frost, tafarn y Royal Oak, Casnewydd-ar-Wysg. Cafodd ei brentisio'n grydd gyda'i daid ac yn ddiweddarach bu'n cynorthwyo mewn siopau dilledyddion ym Mryste a Llundain. Agorodd ei fusnes ei hun yng Nghasnewydd tua 1806; ar 24 Hydref 1812 priododd Mary Geach, gweddw. Oherwydd cweryl teuluol oblegid ewyllys ewythr ei wraig daeth i wrthdarawiad â Thomas Prothero, clerc dinesig Casnewydd (a thaid Rowland Prothero, yr arglwydd Ernle 1af), a bu'n ymosod arno mewn cyfres o bamffledi yn 1821 a 1822; mewn canlyniad i hyn fe'i dyfarnwyd yn euog o enllib, bu raid iddo dalu iawn o £1,000, a chafodd ei anfon i garchar am chwe mis, Chwefror 1823.
Wedi ei ryddhau o'r carchar llwyddodd yn ei fasnach, a chymerodd ran bwysig mewn gwleidyddiaeth leol, gan wrthwynebu dylanwad Torïaidd y teulu Morgan Tredegar ar y naill law a goruchafiaeth Chwigaidd Prothero a'r rhai a oedd yn cyfeillachu ag ef ar y llaw arall. Fe'i dewiswyd yn gynghorydd trefol, 1835, pan basiwyd y Municipal Corporations Act, a daeth yn olynol yn ustus heddwch, yn gomisiynwr gwelliannau, yn warcheidwad y tlodion, ac yn faer Casnewydd.
Er mai ym mis Hydref 1838 y dechreuodd cysylltiad Frost â'r mudiad Siartaidd, fe'i dewiswyd yn gynrychiolydd i gonfensiwn y Siartwyr; ac ym mis Mawrth 1839 collodd ei le ar fainc yr ustusiaid. Pan gymerwyd Henry Vincent, y cynhyrfwr Siartaidd, i'r ddalfa, 7 Mai 1839, a'i anfon i garchar Trefynwy, ffyrnigwyd teimladau glowyr a gweithwyr haearn sir Fynwy. Heblaw hynny, pan benderfynwyd dyfod â'r confensiwn i ben ar 14 Medi, wedi i Frost, fel cadeirydd, roddi ei bleidlais o blaid hynny pan oedd y ddwy blaid yn gyfartal - teimlid fod y Siartwyr heb arweinydd. Ac felly, er gwaethaf cymhellion Frost o blaid arafwch a chymedrolder, aeth y mudiad yn sir Fynwy yn afreolus, ac mewn cyfarfod dirgel yn nhafarn y Coach and Horses yn Blackwood, ddydd Gwener, 2 Tachwedd, penderfynwyd cynnal cyfarfod mawr o brotest yng Nghasnewydd yn blygeiniol fore Llun; yr oedd tri llu i ddyfod i'r dref - un, o dan arweiniad Frost, i deithio o Blackwood, un arall o dan Zephaniah Williams o Ebbw Vale, a'r llall o Bontypŵl o dan William Jones. Dryswyd eu cynlluniau gan ystorm enbyd y noson cynt, ac wedi ysgarmes o flaen y Westgate Hotel saethwyd atynt gan y milwyr a ddygasid yno tua hanner awr yn gynt. Cymerwyd Frost, Williams, a Jones i'r ddalfa, ac ar 16 Ionawr 1840 fe'u condemniwyd i'w crogi a'u chwarteru, am deyrnfradwriaeth, eithr newidiwyd y ddedfryd ac fe'u halltudiwyd am weddill eu hoes. Cyrhaeddodd Frost Van Diemens Land ar 30 Mehefin. Bu'n gweithio i gychwyn yn swyddfa penllywydd y gwarchodlu, eithr cafodd ei ddedfrydu i garchar am ddwy flynedd gyda llafur caled am iddo ddefnyddio ymadroddion amharchus am yr arglwydd John Russell, ysgrifennydd y trefedigaethau. Cafodd bardwn amodol ym mis Gorffennaf 1854 ac aeth ar unwaith i Unol Daleithiau America; ym mis Mai 1856 cafodd bardwn diamodol, daeth adref ym mis Gorffennaf gan ymsefydlu yn Stapleton, gerllaw Bryste, lle bu byw hyd ei farwolaeth ar 27 Gorffennaf 1877 yn ei 93 mlwydd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.