Brodor o Argoed, Bedwellty. Daeth yn gyflogwr glöwyr yn Blaenau Gwent a chan ei bod yn arferiad talu cyflogau glöwyr mewn tai tafarnau cadwai yntau dafarn y Royal Oak yn y lle hwnnw. Yr oedd yn rhydd-feddyliwr o ran crefydd, ac amddiffynnodd ei safbwynt mewn dull deheuig yn A Letter to Benjamin Williams, 1831. Arferai y Working Men's Association lleol gyfarfod yn ei dŷ a daeth yntau yn arweinydd blaenllaw ymysg y Siartwyr. Pan benderfynwyd cymryd cyrch ar Gasnewydd-ar-Wysg fin nos 3 Tachwedd 1839, trefnwyd i Williams arwain y Siartwyr a oedd i gyfarfod â'i gilydd yn ymyl Nantyglo. Wedi'r cythrwfl cymerwyd ef i'r ddalfa ar fwrdd llong yng Nghaerdydd ar 23 Tachwedd. Bu raid iddo sefyll ei brawf a chafodd ddedfryd marwolaeth eithr trefnwyd i'w anfon i garchar tros y môr dros weddill ei oes. Wedi iddo gyrraedd Tasmania ceisiodd ddianc yn rhydd fwy nag unwaith. Yng nghwrs amser cafodd ei ollwng yn rhydd ar 'ticket of leave.' Yna darganfu lo ar yr ynys, ac ymhen amser daeth yn bur gyfoethog. Ymunodd ei wraig, Joan, a'i ferch, Rhoda, ag ef yn Tasmania yn 1854. Bu Zephaniah Williams farw 8 Mai 1874 yn Launceston, Tasmania.
Arhosodd ei fab, Llewellyn yng Nghymru, gan ennill bri fel telynor a dyfod i'w adnabod wrth yr enw ' Pencerdd y De ' (gweler arno M. O. Jones, Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig, a R. Griffith, Llyfr Cerdd Dannau, 325-6).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.