yn disgyn o briodas Howel Gam ap David (fl. 1300) â merch i deulu Scudamore. Mabwysiadwyd y cyfenw'n gyntaf gan ei daid, Roger William (bu farw 1583), a oedd yn siryf sir Fynwy yn 1562 ac a ddilynwyd yn y swydd honno yn 1627 gan ei fab, Syr Charles Williams, tad Syr Trevor Williams; bu Syr Charles Williams, a wnaethpwyd yn farchog yn 1621, yn aelod seneddol y sir y flwyddyn honno hefyd eithr parodd afiechyd iddo fod yn ddi-ddefnydd fel aelod, a bu farw yn ystod sesiwn y Senedd (Mawrth 1642). Gwnaethpwyd ei fab, Trevor, yn gomisiynwr cad-ddarpar yn sir Fynwy pan dorrodd y Rhyfel Cartrefol allan ac yn farwnig ar 14 Medi 1642. Cymerwyd ef yn garcharor gan y Rowndiaid yn Highnam ar 25 Mawrth 1643, eithr wedi iddo gael ei ryddhau trefnodd warchodlu o 60 o ddynion i amddiffyn hen gastell Llangibby, a oedd heb gael ei ddefnyddio ers amser, ar ran y brenin; bu iddo hefyd gymryd rhan yn yr hyn a oedd yn mynd ymlaen yn Nhrefynwy a'r cyffiniau yn 1644. Gan ei fod yn denant i ieirll Pembroke yr oedd yntau â chyfran ganddo yn yr hen gweryl ac anghydfod â theulu Somerset ac yr oedd yn anfodlon iawn oblegid y ffafr a ddangosid gan y brenin i deulu Catholig - yn enwedig y comisiwn a roesid i iarll Glamorgan i ddyfod â milwyr Gwyddelig drosodd i Gymru, comisiwn y daeth y wybodaeth amdano yn hysbys erbyn mis Mehefin 1645; o'r herwydd bu Williams yn gwrthwynebu gwaith Syr Jacob Astley a fu'n ceisio, y mis Awst dilynol, gael gwŷr i ymladd ym myddin y brenin, a chymerwyd ef i'r ddalfa yn y Fenni ar 11 Hydref ar orchymyn y brenin. Cafodd ei ryddhau yn ddiweddarach, wedi iddo ddarparu meichiafon, a phan ddigwyddodd hynny cymerodd feddiant o gastell Trefynwy a'i ddal yn erbyn y brenin (24 Hydref), a bu'n helpu hefyd pan oeddid yn gwarchae ar gastell Raglan y flwyddyn ddilynol. Yn ystod yr ail Ryfel Cartrefol, gan ei fod yn cael ei ddychrynu braidd gan oruchafiaeth Cromwell a phenderfyniad Tŷ'r Cyffredin (7 Mawrth 1648) i roi i hwnnw faenorau teulu Somerset ym Morgannwg a Mynwy, yn eu plith rai Casgwent yn arbennig (y chwenychai ef eu cael iddo ei hun), cynorthwyodd Syr Nicholas Kemys i gymryd a dal castell Casgwent dros y brenin, ym mis Mawrth 1648, hyd nes y cymerwyd ef dros Cromwell ar 25 Mai. Ar waethaf hyn rhoddwyd Williams ar y pwyllgor milisia lleol ar 12 Mai, eithr ni adawyd iddo gael manteisio ar y ' General Composition Act for South Wales ' (23 Chwefror 1649). Er i'w stad gael ei chynnwys ymysg y rhai a oedd yn cael eu cymryd oddi ar eu perchenogion o dan gyfundrefn 'sequestration,' ni chymerwyd mohoni, gan iddo ennill yn ei apêl at farwniaid yr 'exchequer'; yn wir prynodd ef ei hunan diroedd yng Nghaerdydd a Llaneurwg yn 1650 a gymerwyd oddi ar Frenhinwyr (o dan gynllun y 'sequestration' eto), ac ymheddychodd â'r ddiffynwriaeth gan fynd cyn belled ag ymwadu â'i deitl o farwnig am gyfnod (1657). Eithr ni chafodd yr un swydd gyhoeddus hyd at fin yr Adferiad - cyn i hynny ddigwydd gosodwyd ef ar bwyllgorau trethi a milisia ei sir (Ionawr a Mawrth 1660), a bu'n cynrychioli bwrdeisdrefi'r sir yn Senedd y Confensiwn ym mis Ebrill.
Wedi'r Adferiad, cymerodd Williams bardwn o dan sel fawr y deyrnas. Ym mis Tachwedd 1667 llwyddodd i gael ei ddewis yn aelod seneddol dros sir Fynwy (yn erbyn gwrthwynebiad) mewn is-etholiad a achoswyd pan ddaeth aer Raglan yn ardalydd Worcester. Bu'n eistedd dros y bwrdeisdrefi yn Senedd 1679 ac wedi hynny dros y sir yn seneddau 1680 a 1681. Oherwydd ei fod yn pleidio yr hyn a ddaeth i'w adnabod wrth yr enw ' Country Party ' collodd (ym mis Chwefror 1680) ei swydd fel ustus heddwch yn sir Fynwy. Dialodd am hyn y mis Ionawr dilynol trwy uno â John Arnold i ofyn am gael symud iarll Worcester, a gyhuddid ganddynt o ddodi Pabyddion i fod yn warchodlu castell Casgwent, o lys y brenin ac o'r Cyfrin Gyngor; gwrthateb Worcester (a oedd erbyn hyn yn ddug Beaufort) ydoedd cael, ym mis Tachwedd 1683, ddyfarniad o 'scandalum magnatum' yn ei erbyn, ynghyd â dirwy a'i tlododd yn fawr ac a barodd i'w yrfa wleidyddol gael ei dirwyn i ben. Pan fu Williams farw yn 1692 pasiodd y teitl (a chynrychiolaeth sir Fynwy yn y Senedd o 1698 hyd 1708) i'w ddau fab, y naill ar ôl y llall, o'i wraig Elizabeth, aeres Thomas Morgan, Machen (ei gyd- aelod seneddol dros y sir); eithr collwyd y teitl pan fu farw ei or-nai Syr Leonard Williams yn 1758. Yr adeg honno aeth y stad, trwy briodas, i feddiant y teulu presennol, sef Addams-Williams, Llangibby.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.