Ar y cyntaf un o deuluoedd lleiaf y Mars oedd hwn, wedi ymsefydlu yn Ewias er y 12fed ganrif. Daeth dwy gangen o'r teulu, canghennau Holm Lacy a Kentchurch, i amlygrwydd yng nghwrs amser fel gwyr tiriog blaenllaw yn hanes modern Sir Henffordd. Ar un cyfnod daeth cangen Kentchurch i gyswllt clos â digwyddiadau yng Nghymru. Yn y 13eg ganrif daethant i feddu tir yn arglwyddiaeth Abergafenni trwy briodas Syr ALAN SCUDAMORE â merch ac unig aeres arglwydd Troy, sydd heb fod nepell o Drefynwy. Bedair cenhedlaeth yn ddiweddarach priododd gor-wyr Syr Alan ag ALICE, un o ferched Owain Glyndwr.
Pan dorrodd rhyfel Glyndwr allan yr oedd Syr JOHN SCUDAMORE I, mab-yng-nghyfraith Owain, yng ngwasanaeth y brenin; yn y flwyddyn 1403 ef, yn wir, oedd ceidwad castell Carreg Cennen ar ran y brenin ac am gyfnod gwrthsafodd ymosodiadau Owain. Pa beth bynnag oedd safbwynt Syr John yn ddiweddarach tuag at yr arweinydd Cymreig, rhoes un aelod o'i deulu, sef PHILIP SCUDAMORE, Troy, ei fywyd i lawr dros Owain. Y mae hefyd draddodiad cryf - y traddodiad mwyaf credadwy, efallai, o'r rheini sydd yn delio â blynyddoedd olaf Owain - i Owain dreulio ei ddyddiau olaf ar un o stadau Scudamore, sef Monnington Straddel yn y ' Golden Valley.'
Enillodd Syr JOHN SCUDAMORE II, mab ac aer Syr John Scudamore I, enwogrwydd ar ei gyfrifoldeb ei hun fel un o bleidwyr mwyaf cadarn a chyson achos y Lancastriaid yng Nghymru yn ystod Rhyfel y Rhosynnau. Yr oedd gyda Siaspar Tudur ym mrwydr Mortimer's Cross yn 1461, ac er iddo lwyddo i ddianc a chynnal castell Penfro am gyfnod ar ran Siaspar, yr oedd nifer o'i berthnasau agos, a'i fab hynaf HENRY, yn eu plith, ymhlith y rhai y torrwyd eu pennau i ffwrdd ar ôl y frwydr. Yr oedd yr ail Syr John, fel Siaspar Tudur, ymhlith y rhai na chynigiwyd iddynt y pardwn cyffredinol gan Edward IV, ac er iddo gael addewid na chollai mo'i eiddo pan drosglwyddodd gastell Penfro, fe gymerwyd ei stadau oddi arno yn fforffed maes o law. Priododd â Joan, merch John Parry o Boston yn Ewias, a phriododd eu mab James â Mawd, merch Gruffydd ap Nicolas o'r Drenewydd, Dinefwr. Dychwelwyd Kentchurch a thiroedd eraill i etifeddion y briodas hon yn ddiweddarach.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.