HOWELL, JAMES (1594? - 1666), awdur

Enw: James Howell
Dyddiad geni: 1594?
Dyddiad marw: 1666
Rhiant: Thomas Howell
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Herbert Gladstone Wright

Ail fab Thomas Howell, curad Llangammarch, sir Frycheiniog - wedi hynny'n rheithor Cynwyl ac Abernant, Sir Gaerfyrddin. O ysgol rydd Henffordd, aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1610, 'yn 16 oed' a graddiodd yn 1613. Aeth i fyd busnes, ac ar ôl 1616 bu'n teithio ar gyfandir Ewrop am rai blynyddoedd. Oherwydd iddo ddysgu ieithoedd tramor yn ystod y blynyddoedd hyn cafodd ei anfon o 1622 ymlaen ar negeseuau diplomyddol. O 1622 hyd 1624 yr oedd ar genhadaeth yn Sbaen a Sardinia; yn 1632 yr oedd yn llys Denmarc, lle yr oedd ei wybodaeth o'r iaith Ladin yn ddefnyddiol. Yn 1627 cafodd ei ddewis yn aelod seneddol dros Richmond, swydd Gaerefrog. Ar ôl 1639 bu'n gwasanaethu fel swyddog cudd ('secret agent') dros iarll Strafford, arglwydd-ddirprwy Iwerddon; o'r herwydd, fe'i taflwyd gan Dŷ'r Cyffredin yn 1643 i garchar y Fleet, lle y bu hyd 1651. Gwnaethpwyd ef yn hanesydd brenhinol ('historiographer royal') yn 1661 yn dâl am ei gymorth i Siarl I. Claddwyd ef yn y Temple Church, 3 Tachwedd 1666. Amharwyd y gofeb iddo yno gan gyrch bomio o'r awyr noson 10-11 Mai 1941, ond y mae rhan helaeth o'r arysgrif arni yn aros yn ddarllenadwy.

Yr oedd Howell yn gyfarwydd ag awduron a meddylwyr enwog megis Lord Herbert o Cherbury a Ben Jonson. Pan fu Jonson farw talodd Howell deyrnged iddo yn ffurf marwnad. Cyfieithiwyd ei alegori wleidyddol, Dodona's Grove, i Ffrangeg a Lladin, a throswyd ei England's Teares - apêl am heddwch yn 1644 - i'r Lladin a iaith Holland. Yn ei bamffledi gwleidyddol bu'n pledio achos Siarl I tra bu hwnnw byw, eithr pan wnaethpwyd Cromwell yn ' Protector ' canmolodd Howell ef am ddiddymu'r Senedd Faith. Oherwydd ei fod yn symud ymlaen gyda'r amseroedd achwynid ar Howell oblegid ei anghysondeb.

Yr oedd Howell yn ieithydd da a chyhoeddodd eiriadur ieithoedd Lloegr, Ffrainc, yr Eidal, a Sbaen ynghyd â chasgliad o ddiarhebion y gwledydd hynny a rhai o Gymru. Yr oedd yn medru Cymraeg yn dda ac nid oedd byth yn anghofio dyfynnu o'r iaith honno a galw sylw at yr hyn a ystyriai ef yn gyfatebiaethau llwythol a ieithyddol ei bobl ei hun.

Fel awdur fe'i cofir heddiw yn bennaf oblegid ei Familiar Epistles. Tywalltodd i'r rhai hyn bopeth a wyddai ef am ddynolryw a phethau'r byd, a dengys gymaint oedd ei gywreindeb mewn amryw feysydd. Y mae eu bywiogrwydd a'u harddull naturiol wedi peri iddynt boblogrwydd sydd yn parhau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.