OWEN, HUGH (1575? - 1642), Gwenynog, cyfieithydd

Enw: Hugh Owen
Dyddiad geni: 1575?
Dyddiad marw: 1642
Priod: Elizabeth Owen (née Bulkeley)
Plentyn: John Hughes
Rhiant: Owen ap Hugh ap Richard
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfieithydd
Cartref: Gwenynog
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Emyr Gwynne Jones

Ganwyd tua 1575 yn fab i Owen ap Hugh ap Richard, perchennog stad fechan Gwenynog ym mhlwyf Llanfflewyn, Môn. Nid oes sicrwydd iddo erioed fod mewn prifysgol, ond dywedir ei fod yn hyddysg, nid yn unig yn y gyfraith, ond mewn mwy nag un o ieithoedd tramor, ' yr hyn ni ddyscodd gan nebyn Athro arall ond efe ei hun gartref yn ei studi ei hunan.' Yn ystod chwarter cyntaf y 17eg ganrif gweithredai am dymor fel goruchwyliwr ar stad Bodeon, a rhwng 1614 a 1618 bu ganddo ran lled amlwg yn achosion milwrol yr ynys fel capten cartreflu ('trainband') cwmwd Talybolion. Rhywbryd yn y cyfnod hwn penderfynodd droi at Eglwys Rufain, a thua 1622 gadawodd ei gartref a'i deulu ac aeth yn ysgrifennydd i'r arglwydd Herbert yn Worcester House, Llundain. Yn 1627 symudodd gyda'i feistr i gastell Rhaglan pan etifeddodd Herbert iarllaeth Worcester. Parhaodd yng ngwasanaeth yr iarll hyd tua chanol 1640, pryd yr ymddengys iddo ymneilltuo i fyw yn ardal abaty Tintern, ac yno, ym mhlwyf Chapel Hill, y bu farw, rhywdro rhwng Mawrth a Gorffennaf 1642. Hyd y gwyddys, ni ddychwelodd i Fôn ond ar un achlysur yn unig, a hynny am ysbaid byr tua chanol haf 1624. Priododd ag Elisabeth, ferch Thomas Bulkeley o'r Groesfechan, a bu iddynt ddau fab a saith o ferched. Yr oedd yn ewythr i William Griffith, D.C.L., canghellor Bangor a Llanelwy, ac i George Griffith, D.D., esgob Llanelwy.

Cofir amdano'n bennaf fel awdur Dilyniad Crist, y cyfieithiad cyntaf yn Gymraeg o De Imitatione Christi Thomas à Kempis, a olygwyd ac a gyhoeddwyd yn 1684 gan ei fab Hugh, yr offeiriad Jesiwitaidd a adwaenir yn well fel y tad John Hughes. Dywed Hughes yn y cyflwyniad i Dilyniad Crist i'w dad gyfansoddi ' amryw Draethodau duwiol, a phan nid oedd efe etto ond 27 oed ef a gyfieithodd yn Gymraec Lyfr y Resolusion … a gwedi hyny Vincentius Lirinensis, y rhai ysgatfydd a gant ryw amser weled y goleuni cyhoedd.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.