Ganwyd Mehefin 1615, mab ieuengaf Hugh Owen, Gwaenynog. Ymddengys iddo dreulio peth amser pan yn ieuanc gyda'i dad yng nghastell Rhaglan, ond ym mis Rhagfyr 1636 aeth fel myfyriwr i'r Coleg Seisnig yn Rhufain. Ordeiniwyd ef yn offeiriad, 16 Mawrth 1640-1, a daeth i Loegr, 28 Medi 1643. Ymunodd â Chymdeithas yr Iesu yn Watten ger S. Omer, 1648, ac yn 1650 dychwelodd i Loegr i genhadu. Treuliodd Hughes y gweddill o'i oes yng Nghymru a'r gororau; ceir ei enw yn 1650 ymhlith eraill o offeiriaid Jesiwitaidd a fynychai Goleg y Cwm (Coleg S. Francis Xavier) yn Llanrhyddol, sir Henffordd; ond yn ddiweddarach symudodd i ardal Holywell yn Sir y Fflint, ac yno y bu farw 28 Rhagfyr 1686.
Cyhoeddodd yn Liége yn 1670 Allwydd neu Agoriad Paradwys i'r Cymry , cyfieithiad, gwych ei Gymraeg, o ddarnau o'r efengyl, catecismau ar rai o athrawiaethau arbennig Eglwys Rufain, gweddïau, etc. Efe hefyd a olygodd ac a fu'n gyfrifol am argraffu cyfieithiad ei dad, Hugh Owen, o De Imitatione Christi Thomas à Kempis dan y teitl Dilyniad Crist, 1684.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.