WYNNE, SARAH EDITH (‘Eos Cymru’; 1842 - 1897), y Gymraes gyntaf i ddod i sylw'r byd fel cantores

Enw: Sarah Edith Wynne
Ffugenw: Eos Cymru
Dyddiad geni: 1842
Dyddiad marw: 1897
Priod: Aviet Agabeg
Rhiant: Harriet Wynne
Rhiant: Robert Wynne
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: y Gymraes gyntaf i ddod i sylw'r byd fel cantores
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Panton Place, Treffynnon, Sir y Fflint, 11 Mawrth 1842, merch Robert a Harriet Wynne. (Ei henw yng nghofrestr y genedigaethau ydyw Sarah Wynne.) Amlygodd dalent arbennig fel cantores yn blentyn, ac ymunodd â chymdeithas gorawl Treffynnon yn 9 oed, a chanai mewn cyngherddau. Yn 12 oed aeth am daith trwy Gymru gyda Hulse, Bangor, a chanai alawon Cymreig yn y cyngherddau gyda chymeradwyaeth mawr. Yn 14 oed aeth i Lerpwl am addysg gerddorol at Mrs. Scarisbrook, ac arhosodd am bum mlynedd a hanner yno. Gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf fel cantores soprano yn Llundain yng nghyngerdd blynyddol Ellis Roberts (‘Eos Meirion’), Mehefin 1862, a'r mis dilynol yn nau gyngerdd ‘Pencerdd Gwalia’ — y cyntaf, yn y James's Hall, a'r ail yn y Palas Grisial. Ymsefydlodd yn y brifddinas a daeth yn un o gantoresau gorau'r wlad. Canodd yn 1862 yn eisteddfod genedlaethol Caernarfon, ac am wyth wythnos yn 1864 cymerodd ran ‘Lady Mortimer’ yn Henry IV yn Drury Lane Theatre. Bu ar deithiau cerddorol yn 1863-5 gyda Madam Patey, Santley, ac Edward Lloyd, ac yn 1871 cafodd daith gerddorol lwyddiannus yn yr America. Bu am gwrs o addysg yn yr Eidal (e.e. yn Fflorens) o dan Romani a Vanncini. Cymerodd ran yng ngwyliau cerddorol y Plas Grisial, a'r Tri Chôr, a chanai ym mhrif gyngherddau y deyrnas. Yn 1874 anrhegwyd hi gan y ‘London Welsh Choral Union’ â phen pres o waith y cerflunydd Cymreig, Joseph Edwards. Priododd, 1875, ag Aviet Agabeg, Armeniad, a bargyfreithwr. Yr oedd Kate Wynn-Mathuson yn chwaer iddi, ac yn gantores boblogaidd, a Llew Wynne, ysgrifennydd y ‘Welsh Choral Union,’ Lerpwl, yn frawd iddi (gweler Cerddor, Mai 1912). Gwnaeth ei hymddangosiad diwethaf yn James's Hall, 1874. Bu farw 24 Ionawr, 1897 a chladdwyd hi ym mynwent Hampstead, Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/