Ganwyd 12 Chwefror 1788 yn Tredarren, plwyf Llanpumpsaint, Sir Gaerfyrddin, pedwerydd mab Thomas Williams ac Esther (Phillips). Yn ysgol yr Eglwys ym mhentref ei blwyf y derbyniodd yr unig addysg ffurfiol a gafodd; yno yr oedd David Owen ('Brutus ') yn gydefrydydd ag ef. Wedi iddo fwrw ei brentisiaeth mewn siop yng Nghaerfyrddin cafodd, yn 1804, swydd ym masnachdy gwr a oedd mewn busnes fel llawnwerthwr nwyddau cotwm a lliain yn Bread Street yn ninas Llundain. Erbyn y flwyddyn 1820 yr oedd wedi sefydlu ei fusnes ei hun fel llawnwerthwr nwyddau cotwm a lliain; llwyddodd a daeth yn gyfoethog iawn. Teithiai lawer er lles ei fusnes mewn gwledydd tramor, gan gynnwys Rwsia ac U.D.A., a daeth i fedru ieithoedd tramor yn dda.
Daeth yn aelod o Common Council Dinas Llundain yn 1833, ac, yn 1835, yn aelod seneddol dros Coventry. Gyda Joseph Hume, efe oedd y radical mwyaf blaenllaw yn Nhy'r Cyffredin; yr oedd yn gweithio dros y balot, dros gael seneddau byrrach eu parhad, dros helaethu'r etholfraint, a thros ddiwygio mewn cyfeiriadau eraill. Er ei fod yn Eglwyswr, credai y dylai'r Eglwys gael ei gwahanu oddi wrth y wladwriaeth. Collodd ei sedd yn Coventry yn 1847, eithr etholwyd ef dros Lambeth yn 1850 a chadwodd y sedd honno hyd y bu farw yn Regent's Park, Llundain, 28 Ebrill 1865.
Ar 10 Mawrth 1846 cynigiodd yn Nhy'r Cyffredin bod ymchwil i'w wneuthur - 'into the state of Education in the Principality of Wales, especially into the means afforded to the labouring classes of acquiring a knowledge of the English tongue.' Dyma'r cynigiad a roes fod i'r comisiwn addysg y galwyd ei adroddiad yn 'Brad y Llyfrau Gleision .' Yn 1848 ysgrifennodd ddau bamffled: A Letter to Lord John Russell on the Report of the Commissioners - (atebwyd gan Evan Jones, 'Ieuan Gwynedd,' yn ei (A Vindication of the Education and Moral Condition of Wales) a A Second Letter on the present defective state of Education in Wales. Efe a lywyddai yn y cyfarfod a gynhaliwyd yn y Freemasons Tavern, Llundain, 1 Rhagfyr 1863, i hyrwyddo addysg brifathrofaol yng Nghymru, ac addawodd £1,000 yn rhodd at y gwaith. Ychwanegodd adran yn ei ewyllys i'r perwyl hwn ychydig wythnosau cyn iddo farw. Y mae cerflun ohono, gwaith Joseph Edwards, yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.