BOSANQUET (TEULU).

Y mae'r teulu yn tarddu o'r Huguenotiaid; daeth y cyntaf ohonynt i Loegr o Lunel, gerllaw Montpellier, yn 1685. Llwyddodd y teulu ym myd masnach a cheir hwynt wedi ymsefydlu yn Forest House y tu allan i Epping Forest. Dyddir y cysylltiad â gororau Cymru o'r adeg y prynwyd Dingestow Court, gerllaw Trefynwy, gan SAMUEL BOSANQUET (1744 - 1806), llywodraethwr y Bank of England.

Gwnaeth ei fab, yntau hefyd yn SAMUEL (1768 - 1843), y tŷ hwn yn brif gartref iddo'i hun (yr oedd yn siryf sir Fynwy yn 1814), a rhoes ei wyr, SAMUEL RICHARD BOSANQUET (1800 - 1882), oes hir i wasanaeth y sir, gan ddyfod yn gadeirydd y sesiwn chwarter. Yn y cyfamser cadarnhawyd y ddolen gydiol â Chymru pan brynwyd llawysgrifau Cymraeg gwerthfawr, yn eu plith fersiwn Gymraeg gynnar o ' Historia ' Sieffre o Fynwy, a olygwyd yn 1942 gan Henry Lewis o dan y teitl Brut Dingestow. Ffurfiasid y casgliad llawysgrifau ar y cyntaf gan Syr JOHN BERNARD BOSANQUET (1773 - 1847), barnwr a gŵr llên, ond daeth i feddiant ei nai; fe'i prynwyd yn 1916 gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Un o feibion S. R. Bosanquet (1800 - 1882) ydoedd Syr FREDERICK ALBERT BOSANQUET (1837 - 1923), barnwr yn y Central Criminal Court o 1917. Yr oedd aelod o gangen o'r teulu a oedd yn byw yn Northumbria (yn Rock, gerllaw Alnwick), sef ROBERT CARR BOSANQUET (1871 - 1925), yn archaeolegwr enwog. Oherwydd hyn fe'i dewiswyd yn 1908 yn aelod o'r Royal Commission on Ancient Monuments in Wales; gwasanaethodd ar y comisiwn hyd ei farw, ac ysgrifennodd ar leoedd Rhufeinig i'r gwahanol adroddiadau a gyhoeddwyd gan y comisiwn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.