Ganwyd mewn tŷ o'r enw Rhydysarn, yng nghwr uchaf dyffryn Maentwrog, Sir Feirionnydd, a chofnodir ei fedyddio yn eglwys y plwyf, Ffestiniog, 15 Rhagfyr 1822. Ei enw ydoedd Edward Jones, ond wedi mynd i'r coleg, a chael fod yno efrydydd o'r un enw, ychwanegodd yntau Stephen at ei enw, sef enw ei daid - Stephen Jones. Llithrodd y Jones o'r enw, ac adwaenid ef dan yr enw Edward Stephen. Yr oedd ei dad yn ganwr gyda'r tannau, a'i fam yn gantores dda. Symudodd y teulu i Benmount Bach, ac wedi hynny i Ty'maes, Llan Ffestiniog. Addysgwyd ef yn ysgol Penralltgoch, a phrentisiwyd ef yn ddilledydd gyda'i frawd William. Bu'n gweithio ei grefft gyda Joseph Jones, a oedd yn gerddor da, a chafodd hyfforddiant cerddorol ganddo. Yn 18 oed dechreuodd bregethu yn eglwys Saron (Annibynwyr), Llan Ffestiniog. Yn 1843 aeth i Goleg Annibynwyr y Bala. Tra bu yn y coleg, ymroddodd i ddysgu cerddoriaeth a chyfansoddodd amryw ddarnau. Yn 1847 urddwyd ef yn weinidog eglwys Annibynnol Horeb, Dwygyfylchi, Penmaenmawr; bu yno am 10 mlynedd, a daeth yn enwog trwy Gymru fel pregethwr, bardd, darlithydd, llenor, a cherddor.
Yn Nwygyfylchi y cyfansoddodd yr oratorio 'Ystorm Tiberias,' a cheir y dyddiadau canlynol wrth y llawysgrif - 'Ionawr 28, 1851 (dechreuwyd), a Mai 28, 1852 (gorffennwyd).' Dug allan y gwaith yn 1855 (y cyfanwaith cyntaf a gyfansoddwyd gan Gymro) mewn saith o rifynnau, a daeth argraffiad diwygiedig allan yn 1887. Rhoddwyd perfformiadau o'r gwaith mewn llawer o ardaloedd Cymru, a bu'r cytganau yn destunau yr eisteddfodau am flynyddoedd. Yn 1856 derbyniodd alwad yn weinidog eglwysi Bethlehem a Carmel, Llanllechid. Yn 1858 cyfansoddodd 'Requiem' goffadwriaethol i John Jones, Talysarn. Yn 1859 gwnaed ef yn olygydd Cerddor y Cysegr; yn 1868 cyhoeddwyd Llyfr Tonau ac Emynau ganddo ef a'r Parch. J. D. Jones, ac yn 1879 Atodiad ganddo ef ei hunan i'r Llyfr Tonau ac Emynau. Ysgrifennodd lawer o ysgrifau i'r Cronicl a'r Dysgedydd ar ganiadaeth. Bu'n olygydd Greal y Corau o 1861 (Ebrill) hyd y rhifyn diwethaf (Mai 1863). Cyfansoddodd anthemau, a bu 'Llawen floeddiwch i Dduw,' 'Wrth afonydd Babilon,' a 'Disgwylied Israel,' yn boblogaidd. Cyfansoddodd amryw donau hefyd, ac erys 'Tanymarian' yn un o'r tonau gorau.
Yr oedd galw mawr arno fel datganwr a chanai ganeuon o'i waith, 'Hen Gadair Freichiau,' 'Caingc y Delyn,' 'Carlo,' ac eraill. Traddododd ei ddarlith ar gerddoriaeth ar hyd a lled Cymru. Gwasnaethodd fel beirniad yn yr eisteddfodau, a dengys ei feirniadaethau ei fod yn meddu cymhwyster i'r gwaith. Bu galw mynych arno i arwain cymanfaoedd canu, ac ystyrid ef yn arweinydd cymeradwy. Cyfansoddodd lawer o farddoniaeth a cheir ei waith yn Cofiant Tanymarian (W. J. Parry).
Bu farw 10 Mai 1885, a chladdwyd ef ym mynwent capel Bethlehem, Talybont, Llanllechid.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.