Ganwyd 16 Awst 1831, yn Nhreoes, plwyf Llan-gan, Bro Morgannwg, yn fab i JOHN HOWELL (bu farw 1880), ffermwr, a blaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a symudodd o Dreoes i Fryncwtyn, fferm yn ymyl Pencoed, lle y bu ei fab yn ffermio gydag ef. Gwelodd John Griffiths, rheithor S. Mary Hill, ei fod yn fachgen peniog, a pherswadiodd ef i fyned i 'Eagle School' y Bont-faen; oddi yno aeth i'r ysgol baratoi ym Merthyr, ac oddi yno i sefydliad esgobaethol Llandaf yn Abergafenni. Ordeiniwyd ef yn 1855 yn ddiacon gan esgob Llandaf ac yn offeiriad yn 1856. Rhwng 1855 ac 1859 bu'n gurad yng Nghastellnedd tan yr archddiacon Griffiths, a rhwng 1857 ac 1861 yn ysgrifennydd Cymdeithas Cynorthwy Offeiriaid yr Eglwys. Gwnaed ef yn ficer Pwllheli yn 1861, ac yn 1864 yn ficer eglwys S. Ioan, Caerdydd; gadawodd Gaerdydd yn 1875 a mynd yn ficer Wrecsam, sir Ddinbych, lle y bu tan 1891, a symud wedyn i ficeriaeth gyfagos Gresford. Yn 1877 cafodd radd B.D. gan archesgob Caergaint; yn 1885 gwnaed ef yn brebendari Garth Felyd, ac yn ganon anrhydeddus Llanelwy, ac yn 1889 gwnaed ef yn archddiacon Wrecsam. Yn 1897 penodwyd ef yn ddeon Tyddewi.
Lluniodd 'Llawdden' englynion a cherddi ym more ei oes; yr oedd ei dad, John Howell, yn gydolygydd Y Cylchgrawn o 1851 i 1855, ac yn fardd, a chyhoeddwyd casgliad o'i gerddi: Colofn y Bardd: Sef Awdlau, Cywyddau, Ac Englynion, Ar Wahanol Destynau, Moesol A Chrefyddol, Gan John Howell, Pencoed, Morganwg, 1879. Bu ' Llawdden ' hefyd yn darlithio ar bynciau fel ' Emynyddiaeth Gymreig ' a ' Dewi Sant,' ac yr oedd yn enwog fel areithiwr huawdl ar lwyfan yr eisteddfod genedlaethol. Cyhoeddodd y llyfrynnau hyn: Foreign missions, their progress during the reign of Queen Victoria … 1879; Welsh Nationality: an address delivered … before the 'Welsh National Society of Liverpool' … Dec. 1st 1901, 1902; a chyhoeddodd erthyglau yn Y Cyfaill Eglwysig a chylchgronau eraill. Eglwyswr efengylaidd Cymreig ydoedd. Bu farw yn Nhyddewi, 15 Ionawr 1903, ac y mae yn yr eglwys gadeiriol dabled goffa iddo.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.