Ganwyd 20 Mai 1831 yng Nghastellnewydd Emlyn. Aeth i Goleg Trefeca yn 1851, ac oddi yno i Brifysgol Glasgow. Dychwelodd adref yn fuan oblegid ei oddiweddyd gan haint. Ymsefydlodd fel gweinidog ym Mhenclawdd, ond ni bu yno'n hir cyn symud i Fethania, Aberdâr, yn 1857. Tra yno bu'n olygydd Y Gwladgarwr am gyfnod. Yn 1862 symudodd i Lerpwl, a than ei arweiniad ef y codwyd adeiladau yr eglwys yn Princes Road; ond yn 1868 symudodd i Abercarn, sir Fynwy. Trodd ei wyneb i'r Triniti, Abertawe, yn 1873, ac yno y gorffennodd ei rawd. Bu farw 14 Hydref 1892. Etholwyd ef yn llywydd y gymanfa gyffredinol yn 1877, ac yn llywydd cymdeithasfa'r De yn 1880. Yr oedd yn un o brif hyrwyddwyr y gynhadledd yn Aberystwyth (22 Medi 1880) i drafod pwnc addysg ganolraddol yng Nghymru. Yn ei gyfundeb ef ei hunan, ymdrechodd yn galed (ond yn ofer) i gael un coleg diwinyddol i'r holl enwad; cymerth ran yng ngwasanaeth sefydlu Coleg Diwinyddol y Bala yn 1891. Priododd ferch i John Howell, Pencoed (Morgannwg), bardd a blaenor - tad y deon David Howell.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.