JONES, JOHN ('Ivon'; 1820 - 1898), hynafiaethydd ac un o arweinwyr cylchoedd llenyddol a chymdeithasol Aberystwyth yn hanner olaf y 19eg ganrif

Enw: John Jones
Ffugenw: Ivon
Dyddiad geni: 1820
Dyddiad marw: 1898
Priod: Mary Jones (née Williams)
Plentyn: Jane Ivonia Evans (née Jones)
Plentyn: Hannah Edwards (née Jones)
Plentyn: Mary Davies (née Jones)
Rhiant: Hannah Jones
Rhiant: David Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd ac un o arweinwyr cylchoedd llenyddol a chymdeithasol Aberystwyth yn hanner olaf y 19eg ganrif
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Evan David Jones

Mab David a Hannah Jones, y Spite, Bethel, Mynydd Bach Llyn Eiddwen, Sir Aberteifi; ganwyd 10 Mai 1820. Cafodd yr ychydig addysg ffurfiol a ddaeth i'w ran mewn ysgol a gedwid ym Methel gan hen ecseismon, Owen Morris a fuasai'n ddisgybl i'r 'hen Syr' yn Ystrad Meurig. Yn 1835, prentisiwyd ef i'w alwedigaeth fel groser yn un o siopau Lewis Jones, Canton House, Aberystwyth. Pan briododd yn Chwefror 1848 ymsefydlodd yn ei siop ei hun yn Princess Street, gan symud yn 1860 i Commerce House, Heol y Bont, lle bu'n byw bron hyd derfyn ei oes. Bu hefyd yn dal fferm y Waungrug ger Rhydyfelin, ac yn Ionawr 1873 collodd un o'i ddwylo mewn peiriant torri gwellt. O 1882 hyd 1897, efe oedd swyddog elusen Bwrdd Gwarcheidwaid Aberystwyth. Buasai am gyfnod aelod o gomisiwn gwelliant y dref, ond ym mywyd llenyddol Aberystwyth y bu amlycaf. Ymdaflodd â'i holl egni i'r bywyd crefyddol, llenyddol, a cherddorol cryf a ffynnai yn y dref pan ddaeth iddi yn llanc. Yr oedd yn flaenllaw yn yr ysgol Sul, ac yn y mudiad dirwestol a arweinid gan John Matthews tua 1836, ac yn 1861 yr oedd yn un o sylfaenwyr y Temperance Hall yn y dref. Perthynai i'r gymdeithas lenyddol frwd a gyfarfyddai yn y ' Shades,' tafarndy ym mhen uchaf Heol y Bont a droesid yn 'dŷ dirwest.' Astudio gramadeg Cymraeg, cyfansoddi, darllen, a beirniadu barddoniaeth oedd rhaglen y gymdeithas. Er nad oedd Ivon ei hun yn gerddor, bu'n gefn i'r mudiad cerddorol yn y dref o dan Edward Edwards, ' Pencerdd Ceredigion ', drwy gyfansoddi a chyfieithu emynau a chaneuon, a chopïo sgoriau miwsig y gweithiau a berfformid gan gôr y Pencerdd. Yr oedd yn un o sefydlwyr y ' Literary, Scientific, and Mechanics' Institute ' yn y dref, 21 Mehefin 1850. Ef oedd ysgrifennydd eisteddfod genedlaethol Aberystwyth yn 1865, a chyflwynwyd medal aur iddo mewn gwerthfawrogiad o'i gyfraniad sylweddol at lwyddiant yr eisteddfod. Bu'n flaenllaw ym mudiad aflwyddiannus ei gyfaill 'Y Gohebydd' (John Griffith) i godi cofgolofn i Daniel Rowland yn Llangeitho yn 1864. Daeth Commerce House yn fan galw yn Aberystwyth i feirdd, llenorion, a cherddorion Cymru, ac y mae yn y Llyfrgell Genedlaethol gasgliad o'u llythyrau at Ivon. Un o'i gyfeillion agosaf am hanner canrif oedd Daniel Silvan Evans, a thra bu ef yn athro Cymraeg yn y coleg cyfarfyddent bob nos Lun. Un o ffrwythau'r cyfeillachau hyn oedd cyhoeddi Ysten Sioned neu Y Gronfa Gymmysg yn ddi-enw yn 1882. Arddelwyd y cydwaith ganddynt mewn ail argraffiad yn 1894. Edrychid ar Ivon fel awdurdod ar hanes Aberystwyth ac ar lên gwerin y cylch. Cyhoeddodd loffion ac ysgrifau yn Cymru (O.M.E.), yn arbennig o 1894 hyd ei farw. Bu farw 6 Medi 1898, a'i gladdu ar y 9fed ym mynwent y dref (claddesid ei law ym mynwent S. Mihangel). Mary (ganwyd 3 Chwefror 1823, bu farw 21 Ionawr 1895), merch John Williams, dilledydd yn Heol y Bont, oedd ei wraig, chwaer i'r Parch. John Williams, Aberystwyth. Ymhlith eu plant yr oedd tair merch, Mary yn wraig gyntaf i'r Parch. J. Gwynoro Davies, Abermaw, Hannah yn wraig i'r Parch. John Edwards, Bae Colwyn, a Jane Ivonia yn wraig John Evans, cyfreithiwr a chlerc tref Aberystwyth. Claddwyd yr olaf ohonynt, Mrs. John Evans, yn ystod wythnos yr eisteddfod genedlaethol yn Aberystwyth yn 1952.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.