Ganwyd 1 Ionawr 1773, mab Edward Matthews o Benybont ger yr Wyddgrug. Ymgymerodd â gwaith mesur tir, ac erbyn 1811 enillasai le pwysig iddo'i hun gyda'r gwaith hwnnw yn y Gogledd. Yn 1819 penodwyd ef yn gomisiynydd ar gominoedd Arwystli, ac yn 1821 yn gomisiynydd a chanolwr ynglŷn â thir y Traeth Mawr, ger Porthmadog. Ym Mai 1823 symudodd i fferm Clydfanc, ger Llanidloes, ac, yn Rhagfyr 1828, i Aberystwyth. Gwnaethpwyd ef yn fwrdais yn Aberystwyth, a gwnaeth lawer o'i briod waith yn y dref. Ymddiddorodd hefyd yn natblygiad y gweithiau mwyn yng Ngheredigion ac mewn mannau eraill. Dengys ei ddyddiaduron ei fod yn deithiwr cyflym ac yn deithiwr mawr, a'i fod yn gyfarwydd â Gogledd a chanolbarth Cymru drwyddynt draw. Yr oedd hefyd yn aelod ffyddlon gyda'r Methodistiaid Calfinaidd; mynychai'r sasiwn bob cyfle a gâi, a thua diwedd ei oes gweithredai ar nifer o bwyllgorau cyfundebol. Bu farw 9 Ionawr 1848. Priododd Elin, merch Tros-y-wern, ger yr Wyddgrug, a daeth eu mab, JOHN MATTHEWS (1808 - 1870), yntau yn dir-fesurydd, yn siopwr, yn faer tref Aberystwyth, ac yn gyfaill agos i Lewis Edwards a Henry Richard.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.