Ganwyd 3 Ebrill 1812 yn Nhŷ Gwyn, Tregaron, ail fab Ebenezer Richard a'i wraig Mary (merch William Williams o Dregaron). Wedi ei enedigaeth symudodd y teulu i Prospect House, Tregaron. Cafodd ei addysg yn ysgol Llangeitho, a'i brentisio yn 1826 i ddilledydd yng Nghaerfyrddin; yna penderfynodd ymgeisio am y weinidogaeth, ac aeth i Goleg Highbury, yn Llundain. Ordeiniwyd ef 11 Tachwedd 1835 yn weinidog ar gapel yr Annibynwyr yn yr Old Kent Road, Llundain, a bu yno nes iddo ymddeol o'r weinidogaeth ym Mehefin 1850.
Dechreuodd yn gynnar yn ei yrfa ymddiddori ym mhroblemau heddwch. Penodwyd ef yn 1848 yn ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch, ac aeth i Brussels i gynhadledd gydwladol ar y pwnc. Bu'n weithgar iawn yn y blynyddoedd dilynol yn trefnu cynadleddau mewn gwahanol wledydd ac yn gofalu am rai o gyhoeddiadau'r gymdeithas. Ceisiodd hefyd ddehongli Cymru i'r Saeson (soniai amdano'i hun fel lladmerydd); ysgrifennodd i'r Wasg Saesneg i esbonio helynt Beca, ac yn 1866 cyhoeddodd gyfres o lythyrau ar gyflwr cymdeithasol a gwleidyddol Cymru. Yn 1865 daethai allan yn ymgeisydd Rhyddfrydol dros sir Aberteifi, ond tynnodd yn ôl; eithr yn 1868 etholwyd ef â mwyafrif sylweddol yn aelod seneddol dros Ferthyr Tydfil. Safodd yn gadarn dros fuddiannau Cymreig ac Anghydffurfiol yn ystod ei dymor yn y Senedd. Yno, hefyd, yng Ngorffennaf 1873, llwyddodd i gario mesur o blaid cyflafareddiad rhwng y gwledydd.
Bu ganddo gysylltiad â Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn 1880 penodwyd ef yn aelod o'r pwyllgor a chwiliai i gyflwr addysg ganolradd ac uwchradd yng Nghymru a Mynwy. Dadleuai'n gryf yn erbyn ymyrraeth y wladwriaeth mewn materion crefyddol.
Priododd yn Awst 1866 â Matilda Augusta Farley, ond ni bu iddynt blant. Bu farw yn Nhreborth, ger Bangor, 20 Awst 1888, a chladdwyd ef ym mynwent Abney Park, Llundain. Mae iddo gofgolofn yno, a hefyd un ar sgwâr Tregaron.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.