Ganwyd 5 Rhagfyr 1781 yn Nhre-fin, Sir Benfro, mab HENRY RICHARD (1730 - 1813) a Hannah, ei ail briod. Bu'r tad yn athro cylchynol a phregethodd ymhlith y Methodistiaid am 60 mlynedd. Bu'r mab yntau'n athro mewn ysgol ym Mrynhenllan; daeth dan argraffiadau crefyddol dwys yno yn 1801, a dechreuodd bregethu yn 1802, tua'r un adeg â Thomas Richard, ei frawd. Symudodd i dref Aberteifi yn 1806, a bu'n athro preifat yn nheulu un o'r Boweniaid Llwyngwair. Priododd, 1809, Mary Williams o Dregaron ac aeth i fyw i gartref ei wraig. Neilltuwyd ef i'r weinidogaeth yn ordeiniad cyntaf y Methodistiaid yn sasiwn Llandeilo Fawr, 1811. Bu farw 9 Mawrth 1837, a'i gladdu ym mynwent Tregaron. Yr oedd yn bregethwr grymus iawn, ond cofir amdano'n bennaf fel un o brif drefnwyr ei enwad yn nechrau'r 19eg ganrif. Bu'n ysgrifennydd cyfarfod misol Aberteifi, a sasiwn y Deau, am gyfnod maith, a gadawodd ei ôl ar drefniadaeth y Corff. Yr oedd yn un o lunwyr Cyffes Ffydd y Methodistiaid, 1823. Ef hefyd, yn anad neb yn y deau, oedd prif gefnogydd mudiad yr ysgol Sul. Mab iddo oedd Henry Richard, y gwladweinydd, a brawd iddo oedd Thomas Richard.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.