Ganwyd 11 Chwefror 1783, yn Nhre-fin, Sir Benfro, mab Henry a Hannah Richard. Brawd iddo oedd Ebenezer Richard.
Daeth o dan argraffiadau crefyddol yn ieuanc, ac ymunodd â'r seiat yn Nhre-fin. Dechreuodd bregethu yn 1803, a daeth i sylw cyn hir dros Gymru gyfan fel pregethwr nerthol. Ordeiniwyd ef yn sasiwn Llangeitho, 1814.
Priododd, 1819, Bridget Gwyn, Maenorowen, nith i ail wraig David Jones, Llan-gan.
Bu'n cadw fferm mewn amryw leoedd ar ôl priodi, ond ymsefydlodd yn Abergwaun c.1824-5, ac yno y trigodd weddill ei oes. Bu farw 3 Ionawr 1856, a'i gladdu ym Maenorowen.
Yr oedd yn un o brif bregethwyr ei oes. Yr oedd rhyw bereidd-dra yn ei lais a barai i'r werin ddotio arno; gallai daranu'n arswydus hefyd, a'r elfen yna ond odid a'i gwnâi'n gymaint o deyrn yn ei ddydd, yn enwedig yn Sir Benfro. Cyhoeddwyd ei bregethau yn ddwy gyfrol gan Edward Matthews yn 1866-7.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.