Ganwyd 16 Rhagfyr 1821 yn Bodgwilym ger Abermaw, mab i Griffith a Maria Griffith - yr oedd ei fam yn ferch hynaf John Roberts, Llanbrynmair. Cafodd addysg elfennol yn Abermaw. Tua 1836 prentisiwyd ef gyda William Owen, 'Grocer, Draper and Druggist,' Abermaw, lle y bu hyd 1840. Wedi hynny bu'n gwasanaethu mewn siopau yn Scotland Road, Lerpwl, a Llangynog, Maldwyn.
Yn 1847 penodwyd ef yn gynorthwywr i Syr Hugh Owen gyda'i waith fel ysgrifennydd y Gymdeithas Addysg Gymreig, a symudodd i Lundain i fyw. Darfu'r gwaith hwn yn 1849, a bu wedyn am dymor yn cadw siop groser yn Greenwich ac wedyn yn Walworth.
Tra'n gweithio i Hugh Owen, daeth i adnabod Llundain a llawer o brif Ryddfrydwyr y ddinas yn dda, oherwydd rhan o'i waith ydoedd galw arnynt i geisio eu cymorth ariannol i sefydlu Ysgolion Brutanaidd yng Nghymru. Defnyddiodd y wybodaeth hon pan ddechreuodd ysgrifennu erthyglau dan yr enw ' Wmffra Edward ' yn Cronicl ei ewythr Samuel Roberts ('S.R.'). Ymddangosodd ei lythyr cyntaf i Baner Cymru (Thomas Gee) yn nhrydydd rifyn y papur hwnnw, 25 Mawrth 1857, ac ar awgrym ' Gwilym Hiraethog ' penodwyd ef yn ' Ohebydd Llundain ' i'r Faner. Ei waith yn y swydd hon a enillodd iddo'r ffugenw ' Y Gohebydd,' ac a rydd iddo'i le yn hanes Cymru. Ef oedd prif 'ohebydd arbennig' ei ddydd yng Nghymru, a gwnaeth ei lythyrau i'r Faner lawer iawn i ehangu gorwelion ei ddarllenwyr o Gymry uniaith. Cefnogodd y rhan fwyaf o'r mudiadau rhyddfrydig o ganol y ganrif ymlaen - yn ei lythyrau ac mewn cynadleddau a chyfarfodydd cyhoeddus. Yn eu plith ceir yr ymdrech am addysg elfennol ac uwchradd yng Nghymru : yr oedd yn aelod o'r pwyllgor a godwyd i ystyried sefydlu Coleg Aberystwyth ac wedi hynny yn aelod o gyngor y coleg. Gweithiodd dros yr ymgeiswyr Rhyddfrydol yn etholiad 1868, ac wedi hynny ef ydoedd prif symbylydd y gymdeithas a sefydlwyd i amddiffyn a chynorthwyo tenantiaid Ceredigion a drowyd o'u ffermydd ar ôl yr etholiad. Cefnogodd ymdrechion Henry Richard i sicrhau'r bleidlais ddirgel. Yr oedd hefyd yn gefnogydd selog i'r eisteddfod ac yn brif gychwynnydd y symudiad i ailsefydlu Cymdeithas y Cymmrodorion yn 1873.
Anfonodd ddisgrifiadau byw iawn o'i amryw deithiau i'r Faner : o'r Unol Daleithiau yn 1865-6 (yn arbennig soniodd am ryddhad y caethion), o Ffrainc (1867) (Arddangosfa Paris), ac o Awstria (1873), lle bu'n ymweld â'r arddangosfa yn Vienna. Yn 1875 talodd Samuel Morley ei gostau i fynd i'r Eidal er lles ei iechyd a fu'n fregus iawn ar hyd ei oes. Yn 1875 casglwyd tysteb o £734 17s. 0c. iddo. Annibynnwr ydoedd yn ei grefydd, a bu'n gefnogwr selog i'r mudiad i ffurfio Undeb Annibynwyr Cymru. Bu farw 13 Rhagfyr 1877 yn nhy ei chwaer yn Lerpwl : claddwyd ef yn Llangollen.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.