PARRY, JOHN (1775 - 1846), Caerlleon, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, llenor a golygydd

Enw: John Parry
Dyddiad geni: 1775
Dyddiad marw: 1846
Priod: Parry (née Bellis)
Rhiant: Jane Parry
Rhiant: Owen Parry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, llenor a golygydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Richard Thomas

Ganwyd 7 Mai 1775 yn fab Owen a Jane Parry, Groeslon-grugan, plwyf Llandwrog, Sir Gaernarfon. Cafodd well addysg na'r cyffredin o ieuenctid yn y dyddiau hynny. Bu am dymor yn ysgol (Madam Bevan) ym Mrynrodyn, ysgol John Roberts (Llangwm), yn Llanllyfni, ac ysgol Evan Richardson yng Nghaernarfon. Yn 1793 aeth i gadw ysgol ym Mrynsiencyn, Môn - yr oedd honno'n ysgol ddydd i'r plant a hefyd yn ysgol nos i rai hŷn.

Rhoes ei fryd yn gynnar ar fyned i weinidogaeth yr efengyl, ac ar Nadolig 1797 traddododd ei bregeth gyntaf. Yn 1800 symudodd i Gaergybi, ond, oherwydd y galwadau a ddeuai arno fel pregethwr, ysbeidiol i raddau fu yr ysgol yno. Wedi ei briodas â Miss Bellis, Caerfallwch, Sir y Fflint, galwyd ef i wasnaethu'r eglwysi yn Llundain, ac ar yr un pryd cynorthwyai'r Parch. Thomas Charles, trwy ddarllen proflenni'r Beibl Cymraeg a gyhoeddid gan y Gymdeithas Feiblau.

Yn 1806 ymsefydlodd John Parry a'i briod yn ninas Caer, ac wedi rhyw bedair blynedd o gadw siop ddillad troesant at gangen a oedd yn fwy dewisol ganddynt hwy, sef masnach lyfrau, a throes yr anturiaeth honno yn llwyddiant. Yn ei fasnach yr oedd yn ddiwyd, trefnus, a manwl.

Bu'n llenor dyfal ar hyd ei oes. Heblaw amrywiol fân lyfrau, cafwyd ganddo gofiant i'r Parch. John Brown yn ogystal â chyfieithiad o Gorff Duwinyddiaeth yr un gŵr. Daeth allan hefyd Pedwar Cyflwr Dyn, cyfieithiad o gyfrol y Parch. T. Boston. Ysgrifennodd Esboniad ar Lyfr y Prophwyd Esaiah, a hefyd ddau ramadeg, etc. Nid gwiw ychwaith ydyw anghofio'r llyfryn a gyhoeddwyd yn 1811 - un a fu faes cyntaf efrydiaeth gyfundrefnol i blant Cymru am dros gan mlynedd, sef Rhodd Mam.

Yr oedd Parry yn wresog ei ysbryd o blaid mudiadau fel y Genhadaeth Gartrefol a Thramor, addysg grefyddol, a gwaith yr ysgol Sul. Fe'i hordeiniwyd mor gynnar â'r flwyddyn 1814, a bu iddo ran yn ffurfiad cyffes ffydd y cyfundeb, 1823, yn ogystal â dwyn allan y weithred gyfansoddiadol wedi hynny. Wedi iddo sefydlu ei argraffwasg ei hun yn y flwyddyn 1818 cychwynnodd gylchgrawn misol, Goleuad Gwynedd . Ymhen tair blynedd, ar gais y cyhoedd, daeth hwn yn gyhoeddiad anenwadol dan yr enw Goleuad Cymru a'i bris yn 4c. Yn y flwyddyn 1830 daeth awydd am weled ail gychwyn Y Drysorfa , a ddaethai allan cyn hynny yn fylchog, ac yn Ionawr 1831 daeth allan y rhifyn cyntaf ohoni yn y gyfres newydd, ac ef a fu'n olygydd hyd ddiwedd ei oes.

Bu farw 28 Ebrill 1846.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.