Ganwyd yn 1767 ym Mhant-y-ddelw, Bodfari, ond symudodd ei deulu'n fuan i Benymynydd, Tremeirchion. O 1798 hyd 1802 bu yng Nghaer, yn arolygu'r argraffu Cymraeg yno dros Thomas Jones (1756 - 1820) a Thomas Charles. Aeth wedyn i fyw i Gil-deugoed, Tremeirchion, ac yna (am y rhan fwyaf o'i oes) i Groeswian, Caerwys, ac fel 'John Humphreys, Caerwys,' yr adnabyddir ef. Ordeiniwyd ef yn 1816. Tua diwedd ei oes, symudodd i Gil-llwyn, Bodfari, ac yno y bu farw yn Ebrill 1829 (9 Ebrill yn ôl Seren Gomer a Goleuad Cymru, 1829; 13 Ebrill yn ôl Y Gwyddoniadur - dywed Seren Gomer ei fod yn 95 oed, a phawb arall mai 62); claddwyd yng Nghaerwys. Nid oedd yn bregethwr poblogaidd, ond sgrifennai a chyhoeddai'n ddiwyd. Bu'n helpu Charles yn nechreuadau'r Geiriadur Ysgrythyrol; cyfieithodd gryn lawer, gan gynnwys ' Beibl Samuel Clarke ' (Wrecsam, 1813); dug allan argraffiad newydd (1802) Cymraeg o lyfr Cole ar benarglwyddiaeth Duw; ac yr oedd yn ddarn-gyfrifol am y cofiant cyntaf (1820) i Thomas Jones. Yr oedd yn aelod o'r pwyllgor a drefnodd Gyffes Ffydd y Methodistiaid Calfinaidd (1823), ac efe a sgrifennodd y rhagair ar hanes y Methodistiaid Calfinaidd sydd ar flaen y Gyffes (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, 1923).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.