Ganwyd 24 Rhagfyr 1785 yn Braunton, Dyfnaint, ail fab John Knight a Margaret, merch William Bruce, Duffryn, Aberdâr, a brawd i John Bruce Pryce. Ar ochr ei fam yr oedd yn ŵyr i William Bruce, Llanbleddian, a Jane, ŵyres Syr Thomas Lewis, Llanishen. Pan oedd y mab yn ieuanc symudodd ei rieni i Lanbleddian ac addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Bont-faen cyn iddo fynd i ysgol Sherborne ac wedyn i Goleg Exeter, Rhydychen (ymaelodi 5 Mai 1803, B.A. 1807, M.A. 1811). Bu'n gurad Llanishen, ac am ddwy flynedd yn gurad i Dr. Lisle, ficer Sain Ffagan, gan wasnaethu capel Llanilltern yn y plwyf hwnnw. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n astudio Cymraeg a Hebraeg. Yn 1815 rhoddwyd bywoliaeth Llantrithyd iddo gan Syr John Aubrey. Ddwy flynedd yn ddiweddarach rhoes ymddiriedolwyr C. R. M. Talbot fywoliaeth Margam iddo ynghyd â rheithoraeth Llandough-juxta-Cowbridge a S. Mary's Church, Gyda chymorth curad bu'n gwasnaethu y rhai hyn o 1817 hyd 1843, gan fyw yn yr hen ficerdy, Tynycaeau. Priododd Maria Elinor Traherne, S. Hilary.
Yn 1843 symudodd i Landaf i fod yn archddiacon Morgannwg, a dyfod yn ddeon Llandaf yr un flwyddyn. Bu farw ar 8 Awst 1845 a chladdwyd ef o flaen yr allor yn y 'lady chapel' yn eglwys gadeiriol Llandaf.
Y mae i Knight bwysigrwydd fel ysgolhaig, Eglwyswr, a gweinydd. Yn y ddadl ynglŷn ag orgraff yr iaith Gymraeg a fu yn nechrau'r 19eg ganrif, yr oedd Knight ar ochr traddodiad ac felly'n gwrthwynebu John Jones ('Tegid') a fynnai fabwysiadu dull newydd. Cyhoeddodd Remarks Historical and Philological on the Welsh Language a A Critical Review of John Jones' Reply. Iddo ef y rhoddir ' the chief credit of saving the Welsh Bible from the vandalism of Pughe's followers.' Y mae iddo'r clod hefyd (gyda thri chaplan arholi y tair esgobaeth arall) am fersiwn ddiwygiedig y Llyfr Gweddi Gyffredin, 1841.
Knight ydoedd clerigwr pennaf esgobaeth Llandaf mewn cyfnod pan na cheid esgobion trigiannol neu a oedd yn gwbl drigiannol. Cafodd ei ddewis, gan wahanol esgobion, yn ganon arholi, yn ganghellor yr esgobaeth a'r eglwys gadeiriol, a phan adnewyddwyd swydd deon gan y Senedd (3 a 4 Victoria) ef a ddaeth yn ddeon cyntaf Llandaf ar ôl i'r lle fod yn wag am saith canrif.
Yr oedd yn ddylanwadol hefyd fel gweinyddwr. Yn rhinwedd ei swydd fel caplan arholi yr oedd yn gyfrifol am ddewis a threfnu i addysgu ac arholi ymgeiswyr am urddau eglwysig; yn y cyfnod hwn, pan nad oedd esgobion trigiannol, ordeinid ymgeiswyr Llandaf mewn esgobaethau eraill dan gennad ('Letters Dimissory'). Yr oedd gofal yr esgobaeth yn gyffredinol arno; ymwelai fel archddiacon yn rheolaidd, a thrwy hynny yr oedd yn gyfrifol i raddau helaeth am bolisi'r esgobaeth. Cafodd yr esgob Coplestone ef yn gymorth gwerthfawr iddo. Yr oedd yn weithgar gyda llu o gymdeithasau - y S.P.C.K., y ' Church Enlargement Society,' y ' Widows and Orphans' Society,' etc. Cymerai ddiddordeb mawr mewn addysg ac eisteddfodau. Yr oedd ei gartref yn fath o dŷ busnes lle y gellid cael llyfrau a thraethodau eglwysig, y Llyfr Gweddi Gyffredin, etc. Yr oedd ei ddiddordeb yn ddwfn mewn adeiladu eglwysi; ef ei hunan a drefnodd i adeiladu eglwys Holy Cross, Margam, yn 1827. Pan ddaeth yn ddeon Llandaf atgyweiriodd y Lady Chapel a chasglodd £20,000 ar gyfer gwneuthur ychwaneg o waith atgyweirio.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.