JONES, DAFYDD (1711 - 1777), emynydd

Enw: Dafydd Jones
Dyddiad geni: 1711
Dyddiad marw: 1777
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 1711 yng Nghwm Gogerddan, Caeo, Sir Gaerfyrddin, mab Daniel John, porthmon. Porthmon oedd yntau hefyd, a chafodd dröedigaeth yng nghapel Troed-rhiw-dalar wrth ddychwelyd adref o borthmona. Ymunodd ag eglwys Annibynnol Crug-y-bar, a bu'n aelod blaenllaw yno ar hyd ei oes. Priododd, (1), Ann Jones, Llanddewi-brefi, (2) - Price, Hafod Dafolog, Llanwrda. Aeth i fyw i'r Hafod c. 1763; bu farw 30 Awst 1777, a'i gladdu yng Nghrug-y-bar.

Cofir amdano fel emynydd. Ymddangosodd emyn o'i eiddo yn un o rannau Aleluia Williams Pantycelyn, 1747. Dechreuodd drosi salmau ac emynau Dr. Isaac Watts i'r Gymraeg a'u cyhoeddi'n ddwy gyfrol: Salmau Dafydd, 1753 (ail arg., 1766), a Hymnau a Chaniadau Ysprydol, 1775. Trosodd hefyd Divine Songs Dr. Watts a'i gyhoeddi yn 1771 dan y teitl Caniadau Dwyfol. Cyhoeddodd hefyd dair cyfrol o emynau gwreiddiol dan y teitl Difyrrwch i'r Pererinion, 1763, 1764, a 1770. Y mae rhai caniadau yn y cyfrolau hyn, a chyhoeddwyd dwy gân ar ffurf baledi ar ôl ei farw. Ceir un farwnad hefyd o'i waith, sef Marwnad Enoch Ffransis , a gyhoeddwyd yn 1774. Bu ei drosiadau o salmau Watts mewn bri mawr un adeg, a cheir nifer ohonynt o hyd yn ein prif gasgliadau modern. Deil nifer o'i emynau mewn blas o hyd; ni ellir hepgor o unrhyw gasgliad Cymraeg emynau megis 'Pererin wy'n y byd,' 'Wele cawsom y Meseia,' 'O Arglwydd galw eto,' ac eraill.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.