THOMAS, EVAN, neu IFAN TOMOS RHYS (c. 1710 - c. 1770), bardd a chrydd

Enw: Evan Thomas
Dyddiad geni: c. 1710
Dyddiad marw: c. 1770
Rhiant: Thomas Rhys Siams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a chrydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Barddoniaeth
Awdur: Geraint Bowen

mab Thomas Rhys Siams o Lwyndafydd, Llandysiliogogo, Sir Aberteifi. Bu'n dilyn ei grefft yn Llanarth. Ni wyddys pa bryd y dechreuodd farddoni, ond cyhoeddodd gerdd ar lun baled, sef 'Y Maen Tramgwydd,' rywbryd rhwng 1757 a 1761. Ymddangosodd dwy o'i gerddi yn Hymnau Cymwys i Addoliad, 1768, ac un yn Blodau Dyfed, 1824. Argraffwyd cyfrol o'i farddoniaeth, Diliau Awen, yn 1842. Golygwyd hi gan William Hughes Griffiths, Llandysiliogogo, ac ymgymerodd ' Brutus ' ag ysgrifennu rhagymadrodd. Yn y mesurau rhydd y canai gan amlaf. Mae ei destunau yn werinaidd-gymdeithasol, a gwelir olion y baledi ar ei ganu. Ni chadwyd ond pump o'i englynion, a thystia'r rheini na feistrolodd mo grefft y gelfyddyd gaeth. Yr oedd yn awdur halsingod hefyd. Cyfarfu Lewis Morris ag ef yn 1761, ac nid oedd y pryd hwnnw 'above 50 years of age.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.