Mab Thomas Morgan, melinydd Tre Wen, Brongwyn, Sir Aberteifi. Trigai yn y Cwm Du. Ar dystiolaeth marwnad iddo gan ei fab, John Jenkin, ganwyd ef yn 1690. Dechreuodd bregethu gyda'r Ymneilltuwyr yn 1716, a bu'n cynorthwyo achosion crefyddol Tre Wen a Llechryd. Dengys ei englynion ' In Laudem Authoris ' yn Drych y Prif Oesoedd, 1716, a'i gywydd a argraffwyd yn Meddylieu Neillduol ar Grefydd, 1717, ei fod, er yn gymharol ieuanc, ymhell ar y blaen ar ei gyfeillion llenyddol yn neau Aberteifi yn ei feistrolaeth ar gerdd dafod a'i adnabyddiaeth o arddull draddodiadol y cywyddau. Mae ar ei orau yn ei farwnad i Ifan Gruffydd, y Tŵr Gwyn, a luniwyd yn 1735. Crefyddol a moesegol iawn yw ei gerddi rhydd, a dyry le amlwg ynddynt i'r gynghanedd a'r odl fewnol. Ef oedd y cyntaf o feirdd Ceredigion i ddefnyddio'r mesur tri thrawiad.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.