Ganwyd yn Llanwennog, Sir Aberteifi. Pan oedd yn 5 mlwydd oed collodd ei olwg, ond ar waethaf hyn meistrolodd ganu'r ffidil ac enillai ei fywoliaeth fel datgeiniad mewn partïon a chynulliadau o'r fath. Yr oedd hefyd yn fardd da, a dysgodd y gelfyddyd gan Dafydd Llwyd, Brynllefrith, a chopïwyd ei gerddi drosto gan Siôn Llwyd, taid y Parch. D. Lloyd Isaac. Canai yn Gymraeg ac yn Saesneg, a chyhoeddwyd dwy o'i gerddi, ' Cynghor i Fab Ieuanc ' a ' Hanes Cyflwr Dyn yn mhob rhan o'i oes,' gan John Howell ('Ioan Howell') yn Blodau Dyfed, 1824. Bu farw 4 Mawrth 1796 yn Llanwennog.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.