HASSALL, CHARLES (1754 - 1814), swyddog tir a thir-fesurydd

Enw: Charles Hassall
Dyddiad geni: 1754
Dyddiad marw: 1814
Priod: Dorothy Hassall (née Bullfinch)
Plentyn: Oriana Hassall
Plentyn: William Hassall
Plentyn: George Hassall
Rhiant: Martha Hassall (née Rose)
Rhiant: James Hassall
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: swyddog tir a thir-fesurydd
Maes gweithgaredd: Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir
Awduron: Edwyn Henry Stuart Jones, Marion Löffler

Ganwyd 1754 yn ail fab i James Hassall, Aberteifi (1718-1787) a Martha Rose, Stourbridge (bu farw 1795). Trigai yn Eastwood, Arberth. Priododd â Dorothy Bullfinch (bu farw 1845) a bu iddynt dri o blant, y Parch. William Hassall, Llyswen (1788-1849), Oriana Hassall (1790-1809) a George Hassall (ganwyd a bu farw 1792).

Yn arloeswr amaethyddol a chymeriad lliwgar, mwynhaodd beth amlygrwydd yn ne-orllewin Cymru yn ei gyfnod. Daeth i Sir Benfro fel swyddog tir i William Knox, perchennog stadau Llanstinan a Slebech, eithr fe'i ddiswyddwyd gan ei feistr. Yn 1791 dewiswyd ef yn arolygwr a mesurwr tir gan y 'South Wales Association for the Improvement of Roads.' Paratôdd hefyd adroddiadau ar gyflwr amaethyddiaeth yn siroedd Penfro a Chaerfyrddin dros y Bwrdd Amaethyddiaeth. Y mae'r adroddiad ar sir Benfro, A General View of the Agriculture of the County of Pembroke with Observations on the Means of its Improvements , a gyhoeddwyd ym 1794, yn dal i fod yn werthfawr fel arolwg manwl ar gyflwr y wlad yn y cyfnod hwnnw. Ceir ynddo, e.e., gofnod am y gymdeithas amaethyddol gyntaf a sefydlwyd yn Sir Benfro ym 1784. Cymerodd ran fel gwirfoddolwr yn ymgyrch yr arglwydd Cawdor i Abergwaun pan laniodd y Ffrancod yn 1797. Efe oedd y cyntaf i gyfarfod â Thomas Knox pan oedd hwnnw'n cilio'n ôl o Abergwaun. Gan ddefnyddio'r amgylchiad hwn i ddial ar deulu Knox, bu'n flaenllaw i achosi ymddiswyddiad Knox fel pennaeth y 'Fishguard Volunteers'. Yr oedd yn Uwchgapten catrawd y 'Pioneers ' yn 1803 pan ofnwyd glaniad arall, ac yn ysgrifennydd y 'Pembrokeshire Agricultural Society' yn 1806. Yn amaethydd medrus a gwybodus, yr oedd ar delerau da â'r arglwydd Milford, yr arglwydd Cawdor, Greville, ac â'r teulu Foley, a bu i Syr Thomas Picton hyd yn oed gytuno i ymladd gornest-rhwng-dau ag ef ar ôl cweryl a gychwynnodd mewn dawns.

Y mae Charles a'i frawd hŷn Thomas (1750-1813) wedi cael eu galw yn 'ddau o'r amaethwyr mwyaf enwog yng Nghymru' yn eu cyfnod, gan gyflwyno technegau arloesol i wella'r tir, megis dysychu gorsydd, ond yr oedd y ddau hefyd yn gweithio fel Comisiynwyr Cau Tiroedd cyffredin yn siroedd Penfro, Caerfyrddin, Morgannwg a Meirionnydd yn y 19eg ganrif, gwaith dadleuol oedd yn achosi cynnen. Mewn galar dwfn yn dilyn marwolaeth ei frawd hŷn ym 1813 tra roedd yn goruchwylio'r gwaith o amgáu Cors Fochno, ac yn profi cymhlethod ariannol yn codi o'r broses o brynu tiroedd ar Mynydd Mawr oedd newydd gael eu hamgáu, rhoddodd Charles Hassall derfyn i'w fywyd ei hun tra roedd yn Llanbedr-Pont-Steffan, ar 16 Mai 1814. Fe'i coffeir ar dabled yn eglwys Arberth.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.