FOLEY, Syr THOMAS (1757 - 1833), llyngesydd

Enw: Thomas Foley
Dyddiad geni: 1757
Dyddiad marw: 1833
Rhiant: John Foley
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyngesydd
Maes gweithgaredd: Milwrol
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Ridgeway, Llawhaden, Sir Benfro; aeth i'r llynges yn 1770; yr oedd yn y frwydr a achubodd Gibraltar yn 1780, yn y brwydro yng nghyffiniau Toulon (1793), ym mrwydr Penrhyn S. Vincent (1797), a'i long ef a flaenorai ym mrwydr y Neil (1798). Bu drachefn gyda Nelson yn Copenhagen (1801), ond lluddiwyd ef gan afiechyd rhag bod yn y brwydro a derfynodd yn Trafalgar. Urddwyd ef yn farchog yn 1815, a chodwyd ef yn llyngesydd yn 1826; bu farw 9 Ionawr 1833 yn Portsmouth, yn briflyngesydd yno. Adroddir hanes ei yrfa'n llawn yn y D.N.B., ond dylid yma egluro ei gysylltiadau â Chymru. Disgynnai o John Fawley neu Foley, pensaer i esgob Tyddewi, a ' Chwnstabl castell Llawhaden,' y rhoes yr esgob Adam Houghton stad Ridgeway iddo yn 1383. Gŵr o'r enw Foley oedd cwnstabl Llawhaden yn rhyfeloedd Owain Glyn Dŵr; a dywedir i bump o'r teulu gael eu lladd ym mrwydr Colby Moor (gerllaw) yn 1645. Tad ein Foley ni oedd JOHN FOLEY, a brawd i John oedd THOMAS FOLEY (capten yn y llynges; yr oedd ef gydag Anson ar ei fordaith o gwmpas y byd, yn 1740-4), a fu farw yn 1758. Cafodd John Foley dri mab - un o Herbertiaid Cwrt Henry yn Sir Gaerfyrddin oedd ei wraig. Y mab hynaf, ac aer Ridgeway, oedd JOHN HENRY FOLEY, cyfaill i Richard Fenton; yr oedd wedi marw pan gyhoeddodd Fenton ei Tour, 1811. Yr ail fab oedd y llyngesydd. Ar ei briodas (1802, pan nad oedd eto ond capten), prynodd Thomas Foley stad Abermarlais, atgyweiriodd y plas, ac yno y gwnâi ei gartref. Ni bu iddo blant, ond bu cangen arall o'r Foleys yn byw yn Abermarlais ymhell ymlaen i'r 19eg ganrif, a bu un ohonynt yn siryf Caerfyrddin yn 1870.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.