Ail fab Francis, iarll Warwick, a'i wraig Elizabeth Hamilton. Daeth yn oruchwyliwr, a, maes o law, yn etifedd brawd ei fam, Syr William Hamilton (1731 - 1803), a ddaeth i feddu stad helaeth yn nehau Sir Benfro trwy ei briodas â Catherine Barlow (bu farw 1782), Colby. Yn 1790 cafodd Hamilton weithred seneddol breifat yn ei alluogi i ddatblygu'r eiddo ym maenorau Hubberston a Pill, i adeiladu ceiau, dociau, a phierau, i sefydlu marchnad, a darparu ffyrdd, etc. Gan ei fod ef allan o'r wlad yn gwasnaethu fel llysgennad Prydeinig yn llys Naples (1764-1800), gadawodd y gwaith o gario y cynllun allan i Greville. Rhoes yntau ei holl egni i'r gwaith a galwodd y dref newydd yn Milford - Milford Haven yn awr. Adeiladodd dŷ tollau'r Llywodraeth er mwyn hwylustod i longau a'u meistri a gwesty ar gyfer rhai yn hwylio i Iwerddon ac oddi yno. Gwahoddodd amryw deuluoedd o Grynwyr Americanaidd a oedd yn y busnes dal morfilod ym Môr y De ac yn gweithredu o Ynys Nantucket, Massachusetts, U.D.A., i ymsefydlu ym Milford. Cyrhaeddodd y rhai cyntaf yn 1793, ac am beth amser buont yn tradio mewn olew morfilod, olew a ddefnyddid y pryd hwnnw i ddarparu golau yn Llundain. Perswadiodd Fwrdd y Llynges i awdurdodi adeiladu ffrigatau a llofnodwyd y cytundeb cyntaf ynglŷn a hyn ym mis Ebrill 1797. Yn y dref ei hunan, a adeiladwyd yn dair stryd gyfochrog, trefnodd i adeiladu eglwys a gysegrwyd yn 1808 ac a gyflwynwyd i S. Catherine. Agorwyd Tŷ'r Crynwyr yn 1811 ar y fan lle y mae llawer o'r ymfudwyr o America wedi eu claddu. Arfaethai hefyd godi ysgol (neu goleg) yn dysgu morwriaeth, a chanddi arsyllfa, ond ni chwplawyd mo honno. Trefnodd gyhoeddusrwydd o'r math gorau i'r dref newydd trwy berswadio Syr William a Lady Hamilton i ddyfod ar ymweliad, a'r Arglwydd Nelson gyda hwynt, yn Awst 1802. Yr oedd yr amgylchiad yn digwydd ar adeg penblwydd brwydr y Neil, a dathlwyd yr ymweliad a'r penblwydd gydag arddangosfa gwartheg, mabolgampau, ymrysonfa badau, a gwledd; siaradodd Nelson yn y wledd a rhoddi canmoliaeth uchel i Greville am yr hyn oll a wnaethai. Yr oedd presenoldeb Lady Hamilton (1765 - 1815) yn atyniad nodedig; pan oedd hi'n ieuanc bu Emma Lyon, a adnabyddid yn well o dan yr enw Emma Hart, 'o dan ofal' Greville. Efe a ddaeth ag Emma i sylw ei gyfaill George Romney, yr arlunydd, a wnaeth y lluniau ohoni sydd mor adnabyddus. Aeth hi yn ddiweddarach i Naples gan ddyfod (yn 1791) yn ail wraig Syr William Hamilton.
Wedi i Greville farw ym mis Ebrill 1809 daeth dyddiau blin i ran Milford. Dilynwyd Greville gan ei frawd iau, ROBERT FULKE GREVILLE (1751 - 1824), a fu ar un adeg yn wastrawd i'r brenin Siôr III. Diddordeb claear a gymerodd ef yng nghynlluniau ei frawd. Pan gynigiodd y Morlys brynu'r tir y safai'r iard longau arno, tir yr oedd ef yn talu rhent blynyddol amdano, gwrthododd Greville dderbyn y prisiant a awgrymwyd. Penderfynwyd o'r herwydd drosglwyddo'r iard longau i ddarn o dir yn Paterchurch yn uwch i fyny ar yr Hafan ac ar yr ochr arall iddi. Gwnaethpwyd y trosglwyddo yn 1814 ac felly y sefydlwyd Pembroke Dock, a barhaodd i fod yn iard longau brenhinol am dros ganrif. Rhoddwyd dyrnod farwol i'r gofyn am olew morfilod pan aethpwyd i ddefnyddio mwy a mwy o nwy glo i oleuo lampau.
Dilynwyd Robert Fulke Greville gan ei fab, yntau hefyd yn ROBERT FULKE GREVILLE (1800 - 1867). Ceisiodd ef ddyfod yn aelod dros sir Benfro yn etholiad cyffredinol 1831 yn erbyn Syr John Owen, Orielton, eithr cafodd Syr John 109 yn fwy o bleidleisiau. Costiodd yr etholiad yn ddrud i'r ddau ymgeisydd. Am yr 20 mlynedd nesaf bu Greville yn byw allan o'r wlad. Bu'n gwasanaethu fel milwriad yn y British Auxiliary Legion yn Sbaen yn ystod y gwrthryfel Carlaidd; bu wedyn yn byw gerllaw Paris. Yn 1853 dychwelodd i'w stad ac ymdrechodd ddyfod â llwyddiant yn ôl i Milford. Ymgartrefodd yn Castle Hall, plasty yn perthyn i'r 18fed ganrif, ac ychwanegodd lawer at y tŷ hwnnw. Cyrhaeddodd y South Wales Railway hyd at Hwlffordd yn 1854 a gwnaeth Greville bob ymdrech i gael ei hestyn i Milford. Pan benderfynodd cyfarwyddwyr y rheilffordd wneuthur Neyland yn derfyn y llinell ceisiodd Greville gael awdurdod i wneuthur cyffordd â hi yn Johnston. Bu hefyd yn cefnogi'r cynllun i wneuthur rheilffordd o Fanceinion i Milford trwy ganolbarth Cymru er mwyn cael i'w borthladd gyfran yn y fasnach gydag America. Ar ei gost ei hun adeiladodd bier coed, pierdy, a gwesty ar gyfer y drafnidiaeth ag Iwerddon; parodd hefyd wneuthur dwy bont a geneuau ffyrdd yn gysylltiol â hwynt er mwyn hwyluso mynediad dros y ddwy gilfach ddŵr y saif tref Milford rhyngddynt. Llwyddodd yn wyneb llawer o wrthwynebiad lleol i gael pasio Improvement Act yn 1857 yn rhoddi'r hawl i ethol comisiynwyr trefol ag awdurdod ganddynt i godi trethi a chyfalaf i gyflenwi'r dref â gwaith nwy, gwaith dŵr, etc. Costiodd ei amryw gynlluniau yn ddrud iddo, a gwariwyd ei adnoddau bron yn gyfan gwbl. Yr oedd wedi benthyca mwy o arian ar y stad na'i gwerth, a daeth y stad i feddiant y gwystlwr pennaf, sef cwmni yswiriant y National Provident Institution. Bu Greville farw 12 Medi 1867 a chladdwyd ef yn eglwys S. Catherine, lle y dywed ei gofeb: 'He sacrificed his fortune in his endeavour to promote and develop the resources of this place.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.