Brodor o Llanberis, Sir Gaernarfon, lle y gweithiai fel chwarelwr.
Enillodd gryn fri fel bardd, a chyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth yn 1829 dan y teitl 'Eos Padarn', yn cynnwys cyfansoddiadau ar gyfer yr eisteddfodau taleithiol yn Wrecsam, Caernarfon, ac Aberhonddu (1820-2). Gan mai ei gyfiawnhad dros gyhoeddi oedd sicrhau 'i ryw ranau o'm llafur fod ar gôf a chadw: ac na byddai i'r cyfan fyned i lwch angof', nid oedd ei gyfraniad i'r gystadleuaeth yn eisteddfod Caerfyrddin, 1819, a oedd eisoes wedi ymddangos yn Awen Dyfed (1822), yn rhan o'r arlwy: yn ei 'Awdl, ar farwolaeth y godidog flaenawr milwraidd, Syr Thomas Picton' a anfonwyd i'r gystadleuaeth honno, rhoes sylw i yrfa Picton yn India'r Gorllewin, gan gynnwys ei ddyrchafiad 'Yn Trinidad... / Yn enwog Lywiawdwr', heb ysywaeth gydnabod natur ddadleuol a gwrthun gweithgaredd Picton yn ystod y cyfnod hwn.
Daeth ei fab Griffith Edwards yn fardd a hynafiaethwr enwog ('Gutyn Padarn').
Fe'i claddwyd yn Llanberis 3 Hydref 1857.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.