EDWARDS, GRIFFITH ('Gutyn Padarn '; 1812 - 1893), offeiriad, bardd, a hynafiaethydd

Enw: Griffith Edwards
Ffugenw: Gutyn Padarn
Dyddiad geni: 1812
Dyddiad marw: 1893
Rhiant: William Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad, bardd, a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Hanes a Diwylliant; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Parry

Ganwyd yn Llanberis 1 Medi 1812, mab William Edwards ('Gwilym Padarn'). Ni chafodd ond addysg elfennol yn ei ieuenctid, ond dysgodd yr ieithoedd clasurol gyda Peter Bayly Williams, rheithor Llanrug. Graddiodd yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, yn 1843, a chymerodd radd M.A. yn 1846. Yn 1843 urddwyd ef i'r weinidogaeth, a'i benodi'n gurad Llangollen. Yn 1846 penodwyd ef yn gurad parhaol Minera, ac yn 1863 yn rheithor Llangadfan, Sir Drefaldwyn, ac yno y bu hyd ei farw.

Cystadlodd ar y prif destunau barddol yn eisteddfodau Biwmares (1832) a Lerpwl (1840), a chyhoeddodd Gwaith Prydyddawl yn 1846. Ysgrifennodd gryn lawer o farddoniaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg, a cheir erthyglau o'i waith ym mhrif gylchgronau'r ganrif. Cyhoeddodd Deg-ar-hugain o Bregethau yn 1854, ac ef oedd golygydd Ceinion Alun, 1851. Ysgrifennodd hanes plwyfi Llangadfan, Garthbeibio, a Llanerfyl.

Bu farw 29 Ionawr 1893.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.