LLOYD (TEULU), Bodidris, sir Ddinbych

Hen deulu yn sir Ddinbych ydoedd hwn a gododd i bwysigrwydd dan y Tuduriaid, i raddau mawr oherwydd priodasau lleol gydag aelodau teuluoedd yn y cylch; gwnaeth un o'r priodasau hyn hwynt yn etifeddion Glyndyfrdwy, treftadaeth Owain Glyn Dŵr. Bu JOHN LLOYD yn siryf sir Ddinbych yn 1551 a dilynwyd ef yn y swydd honno yn 1583 gan ei fab, Syr EVAN LLOYD (bu farw 1586), a etholwyd yn aelod seneddol dros y sir yn 1585. Mynnai rhai yn 1574 fod Syr Evan yn Babydd, eithr ni bu i ymdrechion cryfion Richard Gwyn (bu farw 1584) lwyddo i'w gael i 'gymodi' mewn modd agored â Rhufain, ac yn 1578 bu'n aelod o gomisiwn i ddiwreiddio pabyddiaeth yn swyddi Dinbych a'r Fflint. Bu'n ymladd yn yr Iseldiroedd o dan iarll Leicester, fe'i gwnaethpwyd yn farchog ar faes y gad, a bu farw yn Llundain (11 Mawrth 1586) yn gynnar ar ôl iddo lanio yng Nghaint ar ei ffordd yn ôl. Canwyd ei glodydd ef a'i dad gan y bardd Simwnt Fychan.

Syr JOHN LLOYD (bu farw 1606), ysgwier

Mab Syr Evan. Yr oedd yn un o dwr o ysgwieriaid yn nwyrain sir Ddinbych (llawer ohonynt yn ffafriol i Babyddiaeth) a oedd yn pleidio achos Robert Devereux, ail iarll Essex, ac yn gwrthweithio yn erbyn awdurdod lleol Salsbriaid Llewenni. Yr oedd yr ochri hwn wedi peri iddo fod mewn terfysgoedd, ac achosion o'u plegid yn Llys y Seren, erbyn y flwyddyn 1591, eithr yn 1596 y dechreuodd ei gyfathrach ag Essex; yr adeg honno bu'n helpu ei frawd-yng-nghyfraith, y capten John Salusbury, Rûg, i godi llu arfog yn sir Ddinbych i fynd i ymgyrch yr iarll i Cadiz; y mae'n debyg iddo yntau fynd i'r ymgyrch honno - yn 1601 bu raid iddo wynebu yn Llys y Seren achwynion a ddywedai iddo drin mater cael gwŷr ac arfau ar gyfer yr ymgyrch mewn modd nas dylasai. Yn 1599 aeth i Iwerddon gydag Essex, a chafodd ei wneuthur yn farchog ar faes y gad. Dychwelodd i sir Ddinbych yn 1600 i geisio codi ychwaneg o filwyr, ac fe'i cafodd ei hun a Syr Richard Trevor mewn helynt â theulu Llewenni a'u plaid - bu chwilio i mewn i'r materion hyn yn Llys y Seren yn 1602. Yn y cyfamser, sef yn mis Rhagfyr 1600, bu cynorthwywyr Essex yn y cylch yn cyfarfod yn nhŷ Lloyd yn Wrecsam, a gydag arian a roddwyd gan Lloyd yr ymadawodd y capten John Salusbury i Lundain pan gafodd wŷs i gymryd rhan yng nghynllwyn mis Chwefror 1601. Achwynwyd ar Lloyd wrth y Llywodraeth, eithr llwyddodd i osgoi cosb, a phan fu etholiad seneddol yn y sir y mis Medi canlynol yr oedd ef ymhlith hen gefnogwyr Essex a oedd â grym arfau yn pleidio Syr Richard Trevor yn erbyn Syr John Salusbury, Llewenni; dywedwyd (yn ddiweddarach yn Llys y Seren) iddo ef ei hunan ddyfod â chant o wŷr arfog i'r man lle yr oeddid yn ethol yr aelod, a thrwy hynny iddo ychwanegu at y drwg deimlad oherwydd yr hwn y parodd y siryf atal yr ethol. Aeth Lloyd yn ôl i Iwerddon yn ystod teyrnasiad Iago I, a bu farw yn Newry yn 1606. Mewn dau gywydd sonnir amdano gan Thomas Prys, Plas Iolyn, fel cydymaith mewn arfau; canwyd ei glod hefyd gan Lewys Dwnn.

EVAN LLOYD (bu farw 1637), capten

Ŵyr Syr John. Yr oedd yn gapten yn Iwerddon, a chanddo diroedd yn Newry. Bu ei fab ef, Syr EVAN LLOYD, yn ymladd dros Siarl I, a dirwywyd ef (£1,000) gan y Senedd, 16 Mehefin 1646, ond gwnaeth y brenin ef yn farwnig, 21 Mehefin 1647. Darfu'r teitl pan fu ei fab, o'r un enw ag ef, farw'n ddietifedd, 6 Ebrill 1700 - bu hwn yn arwain cwmni Cymreig yn yr Iseldiroedd yn 1673.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.