Yn ôl Gildas - y sydd y tro hwn heb ddilyn ei arfer o adael allan enwau personol - yr oedd Ambrosius Aurelianus yn disgyn o dras Rhufeinwyr enwog a fu mewn awdurdod dros Brydain yn eu dydd ond a fuasai farw yn yr ornest yn erbyn goresgynwyr o Saeson. Er ei fod yn ŵr heb uchelgais, fe'i tynnwyd gan y Brythoniaid, pan oedd yn gyfyng arnynt, i ganol y gwrthdaro, ac o dan ei arweiniad ef fe gafwyd buddugoliaeth.
Gadawsai etifeddion ar ei ôl, ond nid oedd gan Gildas syniad goruchel am y rhain fel y gellir yn hawdd gredu os oedd yr Aurelius Caninus y mae Gildas yn sôn amdano yn un ohonynt. Yn nhraddodiad y Cymry daethpwyd i'w enwi'n Emrys Wledig (sef Rheolwr), ond bu camddealltwriaeth pan ddywedwyd mai yr un un ydoedd â'r Ambrosius a enwir gan Nennius, sef y bachgen ifanc, gwron y stori werin, a barodd y fath anhwylustod i ddewiniaid Gwrtheyrn ac a roes ei enw i Ddinas Emrys gerllaw Beddgelert.
Y mae gan Sieffre o Fynwy ei ddull llac ei hun o drin Ambrosius Aurelianus; yn ei 'historia' ef gwneir Ambrosius hanes yn Aurelius Ambrosius, mab Cystennin (nid Cystennin Fawr); yn blentyn bach fe'i dygir ymaith i Lydaw, dychwel i Brydain drachefn, fe'i heneinir yn frenin, ac y mae'n gorlethu Gwrtheyrn. Yna y mae'n cwrdd â Hengist mewn brwydr ac yn ei ladd; ceir heddwch yn y tir a daw cyfraith a threfn i deyrnasu.
Y mae'r cymysgu a geir gan Nennius yn cael ei ddatrys yn ddeheuig - Merlin oedd y gwneuthurwr-gwyrthiau wedi'r cyfan, y Merlin 'a enwir hefyd Ambrosius.' Dyna sut y crewyd y gwahaniaeth tybiedig cydrhwng ' Merlinus Ambrosius ' (' Myrddin Emrys ') a ' Merlinus Celidonius ' (' Myrddin Celyddon ').
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.