Yr ail o'r pum tywysog Cymreig cyfoes yr ymosodir arnynt gan Gildas yn ei De Excidio, fel 'cenaw'r llaw' yn ei gyfres o anifeiliaid gwylltion. Ni roir inni unrhyw syniad am y rhan o'r wlad y teyrnasai Aurelius Caninus arni, eithr awgryma ei le yn y rhestr mai yn nyffryn Hafren yr oedd. Awgryma'r enw Aurelius dras Rufeinig; efallai ei fod yn un o ddisgynyddion tras pwdr Ambrosius Aurelianus a warthruddir yn gynharach yn y llyfr. Efallai hefyd mai gwawdair gan Gildas ydyw 'Caninus' ar draul enw Celtaidd y tywysog. Fe'i portrëedir, gyda gwawd, yn ddyn yn dilyn buchedd amhur, yn llofrudd, yn caru rhyfel cartrefol ac anrhaith. Y mae ei dylwyth i gyd wedi darfod amdanynt, a disgrifir ef yn sefyll wrtho ei hunan, fel pren crin mewn maes agored. Yn niwedd y portread gelwir arno'n groch i edifarhau.
Yn nwylo celfydd Sieffre o Fynwy aiff Aurelius Caninus yn Aurelius Conanus a fu'n llywodraethu ar yr holl wlad am yn agos i dair blynedd. Yn y trosiadau Cymraeg gelwir hwn yn Cynan Wledig.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.