GWRTHEYRN

Enw: Gwrtheyrn
Plentyn: Gwerthefyr
Plentyn: Pascent ap Gwrtheyrn
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Ifor Williams

Yn ôl Beda yn ei ' Hanes Eglwysig ' daeth y Saeson i Brydain i gynorthwyo'r Brython yn erbyn y Pictiaid a'r Scotiaid, ar wahoddiad y Brython a'u brenin ' Uurtigern.' Yr ymerawdwyr Rhufeinig ar y pryd oedd Marcian a Valentinian; dechreuasant lywodraethu, meddai, yn A.D. 449. Nage, medd Plummer (Baedae Opera, ii, 27), ond yn 450, a bu Marcian farw yn 457. Ysgrifennai Beda hyn yn 731; gwelsai lyfr dagreuol y Brython Gildas a ysgrifenwyd cyn 547, blwyddyn marw Maelgwn Gwynedd. Yno (adr. 23) dywedir 'Syrthiodd y fath ddallineb ar yr holl gynghorwyr ynghyda'u teyrn balch ['cum superbo tyranno'] nes yn lle gwarchodlu i'w hamddiffyn, y dygasant ddinistr llwyr ar ben eu gwlad; canys er mwyn ymlid ymaith dylwythau'r gogledd, derbyniasant i mewn i'r ynys, fel bleiddiaid i gorlan defaid, y Sacsoniaid ffyrnigwyllt ac annuwiol, pobl gas gan Dduw a dynion,' felly y cyfieithir gan J. O. Jones, O Lygad y Ffynnon, 120. Troes y milwyr cyflog hyn yn erbyn eu cyflogwr, ac anrheithio ei deyrnas. 'Y lle cyntaf y planasant eu crafangau erchyll ynddo oedd cwr dwyreiniol yr ynys,' a hynny 'ar gais y brenin anffodus.' Gwell fyddai 'ar orchymyn' neu 'ar arch,' am 'iubente,' canys cyfeirir at y tir a gawsant i drigo ynddo gan y brenin.

Tua 796 lluniodd Nennius ei Historia Brittonum mewn rhan o groniclau estron, ac mewn rhan o draddodiad y Cymry. Geilw'r brenin yn ' Guorthigirnus,' arweinwyr y Saeson yn 'Hors' a 'Hengist,' a dywed mai wedi eu halltudio o'r Almaen yr oeddynt; iddo eu derbyn yn garedig a rhoi iddynt ynys a elwir yn eu hiaith hwy 'Tanet.' Amserir hyn ganddo yn y flwyddyn 347 ar ôl Dioddefaint Crist, 'pan oedd Gratianus ac Equitius yn teyrnasu,' Mommsen, 171-2. Rhy gynnar yw hyn o lawer: fel y dywed Stenton, Anglo-Saxon England, 1, pan ymwelodd S. Germanus â Phrydain yn 447 nid oedd y Brython eto wedi eu gorchfygu gan y barbariaid. Gesyd ef y 'gwahoddiad' i'r Saeson rhwng 446 a 454; derbynier hynny fel amseriad posibl. Cyson yw â thystiolaeth hynafiaetheg i sefydliadau Seisnig ym Mhrydain ysbaid cyn diwedd y 5ed ganrif, a chyson yw hefyd â'r achau a rydd Nennius ei hun (adr. 49); o ' Fernmail,' brenin ' Buelt ' a ' Guorthigirniaun ' pan oedd ef yn ysgrifennu, hyd ' Guorthigirn Guortheneu ' mab ' Guitaul ' mab ' Guitolin ' mab ' Gloiu,' dyry 11 o enwau. Rhwng 450 a 798 y mae 348 o flynyddoedd; rhanner rhwng yr 11, ac wele genhedlaeth o tua 33 blwyddyn i bob un. Nid afresymol yw hynny. Yn ddiweddarach troes ' Guorthigirn ' yn Gwrtheyrn, a 'Guortheneu' yn Gwrthenau, sef tenau iawn; hefyd datblygodd ' Guorthigirniaun ' yr 8fed ganrif trwy amryfal ffyrdd yn ' Gwertheyrn-iawn,' neu ' Gwrtheyrniawn,' a thrwy drawsosod yn ' Gwerthrynion ' (megis yn y Brutiau). Gwelir ei ystyr wrth gymharu parau fel ' Edern,' ' Edeirniawn '; a gwelygorddau Powys yn ôl Cynddelw (Ll.H. 163-6), ' Yorueirthyawn ' o Iorwerth, Iorferth : ' Gweirnyawn ' o Gwern : ' Tygyryawn ' o Tengyr, Tyngyr; ' Lleissyawn ' o Lles. Felly gall enw yn '-iawn' olygu disgynyddion tylwyth rhyw bennaeth neu'r fro y maent yn trigo ynddi. Ar safle Gwerthrynion rhwng Gwy ac Ieithon, gweler Lloyd, A History of Wales , 253-4. (am gynnig i esbonio'r enw fel 'calumpnia iuste retorta,' gweler Mommsen, 187, n. 2: o'gwarth-a-yr-yn-iawn.') Yn ôl Nennius (adr. 48), cafodd Pascent mab Gwrtheyrn ar ôl marw ei dad ddwy ardal, sef Buellt a Gwrtheyrniawn trwy rodd Emrys a oedd yn frenin (mawr) 'ymhlith' holl frenhinoedd y Brython (neu 'arnynt': amrywia'r copïau).

Cymysgfa yw hanes Gwrtheyrn yn yr Historia o ddau gyfarwyddyd, neu chwedl, un yn gynnyrch y llys, a'r llall yn gynnyrch y llan. Yn ôl y cyntaf, i gael merch Hengist yn wraig, rhoes Gwrtheyrn i'r Saeson ardal Caint. Wrth weld y rheini'n cynyddu, ofnodd, a chrwydrodd a cheisiodd le i godi caer ddiogel rhagddynt yn Eryri. Rhydd hyn gyfle i roi hanes y bachgen bach di-dad, a orchfygodd dderwyddon y brenin trwy ei fawr ddoethineb yn esbonio brwydr y Ddraig Goch a'r Ddraig Wen, ac a gafodd y gaer (Dinas Emrys) iddo'i hun. Ef oedd Emrys Wledig. Bu raid i Wrtheyrn godi caer mewn lle arall.

Yn y cyfamser, ymladdai Gwerthefyr, mab Gwrtheyrn, yn bur llwyddiannus yn erbyn y gelyn. Ond bu farw ar fyrder. Daeth y Saeson yn ôl, a thrwy ddichell neu Frad y Cyllyll, lladdasant 300 o bendefigion Gwrtheyrn, a bu raid iddo roi Essex, Sussex, a Middlesex iddynt fel pridwerth am ei einioes. O'r herwydd, yn gas gan bawb, bu farw fel crwydryn o dor calon. Dyna stori'r llysoedd.

Yn ôl y chwedl eglwysig ym 'Muchedd Garmon,' y cyfarwyddyd arall, bu Gwrtheyrn yn euog o losgach, a phriodi ei ferch ei hun. Melltithiwyd ef gan y sant, a'i erlid o le i le. Daeth tân o'r nef a'i losgi ef a'i wragedd yng Nghaer Wrtheyrn, yn Nyfed, ger Teifi.

Nid oes olau o gwbl ar y modd y daeth Gwrtheyrn yn frenin y Brython, na beth oedd ei berthynas â meibion Cunedda yng Nghymru. Gan fod Gildas hefyd yn moli gwrhydri Emrys, gellid tybio mai Lloegr oedd maes ei frwydro ef, a gadael Cymru i feibion Cunedda. Dengys mawl Gildas iddo mai Rhufeinwr oedd Emrys : Lladin oedd ei enw ('Ambrosius Aurelianus'), fel Arthur. Enw Celtig oedd gan Wrtheyrn, ond enwau Lladin oedd gan ei dad a'i daid. Felly Cunedda hefyd. Dengys hyn y gymysgedd gwaed a thraddodiad a nodweddai'r dynion a ddaeth yn amlwg ym Mhrydain ar ymadawiad y Rhufeiniaid.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.