GWYNFARDD BRYCHEINIOG (fl. c. 1180), un o'r Gogynfeirdd

Enw: Gwynfardd Brycheiniog
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o'r Gogynfeirdd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: John Ellis Caerwyn Williams

Ni chadwyd dim o'i waith oddieithr dwy gerdd, sef ' Canu y Dewi ' ac ' Awdyl yr Arglwydd Rys ': gweler Hendregadredd MS., 197-207. Awgryma ei enw mai gwr o Frycheiniog ydoedd; yn ei ' Canu y Dewi,' cyfeiria at 'blwyf llann dewi lle a volwyf' ac fe all ei fod yn cyfeirio at un o lannau Dewi ym Mrycheiniog. Wrth ystyried ei gerdd i Ddewi Sant, dylid cofio fod Gerallt Gymro wedi ei ethol yn archddiacon Brycheiniog yn 1175, a'i fod wedi mynnu fod ganddo hawl i oruwchlywodraethu eglwysi Elfael a Maelienydd a'i fod felly wedi cychwyn ar ei yrfa fel amddiffynnydd hawliau esgobaeth Tyddewi, ac yn fuan iawn ef oedd arweinydd y mudiad i brofi fod Tyddewi yn annibynnol ar Gaergaint. Yn ôl pob tebyg, y mudiad hwnnw oedd symbyliad ysgrifennu Buchedd Ddewi gan Rygyfarch (c. 1090, yn ôl Wade-Evans), a thebyg mai'r un symbyliad oedd i gân Gwynfardd Brycheiniog i Ddewi. Cyfeiria'r gerdd a'r fuchedd at rai digwyddiadau, ond ymddengys fod deunydd yn y gerdd nas ceir yn y fuchedd. Gallasai'r awdl i'r arglwydd Rhys fod wedi ei chanu unrhyw adeg ar ôl 1172, y flwyddyn y cyfarfu'r brenin Harri II â Rhys ap Gruffydd a'i wneud yn 'ustus' ('justiciar') y deau ac felly'n ' arglwydd.' Efallai mai yn y flwyddyn 1176, blwyddyn yr 'eisteddfod' yn Aberteifi, y canwyd yr awdl, ond ni ellir bod yn sicr nad yn ddiweddarach y'i cyfansoddwyd.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.