RHYDDERCH HAEL (neu HEN)

Enw: Rhydderch Hael (Neu Hen)
Rhiant: Tudwal Tudelyd ap Clynnog ap Dyfnwal Hen
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones

mab Tudwal Tudelyd ap Clynnog ap Dyfnwal Hen (Harl. MS. 3859; Cymm., ix, 173). Yn ôl ' Achau'r Saeson,' ymladdodd Rhydderch Hen gydag Urien (Rheged), Gwallawg, a Morgan yn erbyn Hussa, brenin Northumbria, c. 590. Dywed Adamnan (624 - 704) ym ' Muchedd Columba ' mai brenin Alclud (Dumbarton, ger Glasgow) ydoedd a'i fod yn gyfaill i S. Columba (521 - 597). Dyna'r unig gyfeiriadau ato mewn dogfennau cynnar. Yn ôl ' Buchedd Cyndeyrn ' gan Jocelyn, bu S. Cyndeyrn a Rhydderch farw yn yr un flwyddyn, ond ni wyddys y dyddiad.

Daeth yn ffigur mewn chwedlau a chyfeirir ato yng ngherddi ' Myrddin ' (Black Book of Carmarthen, 49.16, 50.3, 52.11, 56.16, 57.16). Cyfeirir ato hefyd fel y buddugwr ym mrwydr Arfderydd, a ymladdwyd, yn ôl Harl. MS. 3859 (Cymm., ix, 155), yn 573. Yn y Trioedd enwir ef fel un o dri haelion Ynys Prydain (M.A. 389), cyfeirir at ddiffeithio ei lys gan Aiddan, brenin y Sgotiaid, 574-606 (ibid., 391), a rhoir ' Drudlwyd ' fel enw ei farch (Black Book of Carmarthen, 28. 5). Yn ôl Black Book of Carmarthen, 64.8-9. fe'i claddwyd yn Abererch; ond y mae'n rhaid mai traddodiad diweddar mewn chwedl yw hyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.