Ganwyd 2 Chwefror 1769 yn Hafod Olau, y Waun Fawr, sir Gaernarfon. Ei dad oedd William, ail fab Edward William o'r Llwyn-celyn Llanberis, a'i fam oedd Catrin ferch Morgan Gruffydd (‘Morgan y Gogrwr’) o Lŷn. Gweithiai ar y tir yn nechrau ei fywyd, ond yn ddiweddarach cafodd waith yn chwarel y Penrhyn lle daeth yn swyddog ymhen amser. Cyfarfu a damwain i'w feilwng yn y chwarel a bu heb weithio am naw mis o dan ofal y meddyg Robert Isaac o Ymwlch Fawr. Lletyai ar y pryd yn nhŷ Abraham Williams (‘Bardd Du Eryri’) yng Ngwaun-y-gwiail, Llanllechid, a chafodd fenthyg llyfrau a llawer o hyfforddiant gan y ‘Bardd Ddu,’ a dyna'r pryd y dysgodd reolau barddoniaeth. Urddwyd ef yn fardd yn ôl ‘braint a defawd beirdd Ynys Prydain’ gan ‘Iolo Morganwg’ yn eisteddfod Cadair Dinorwig yn 1799. Ysgrifennodd lawer o gywyddau a chaneuon a'u cyhoeddi yn y cyfnodolion, a chyhoeddodd lyfr o'i weithiau o dan y teitl Ffrwyth Awen yn 1816. Ystyrid ef y pwysicaf o ‘gywion’ ‘Bardd Du Eryri,’ ond ychydig o ddim y gellid ei ystyried yn farddoniaeth a gyfansoddodd er iddo ennill gwobr y Gwyneddigion am ei awdlau ar ‘Goronwy Owen’ a ‘Jubilee George III’ yn 1803 a 1810. Bu farw 18 Medi 1838, a chladdwyd ef ym mynwent Llandygai.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/