Ganwyd yn Cwmglas Mawr, Llanberis. Rhoes ei dad, Thomas Williams, ef yn ysgol John Morgan, curad Llanberis, am gyfnod; yr oedd 'Dafydd Ddu Eryri' yno yr un pryd. Bu dau gurad arall cyn hynny yn Llanberis yn ieuenctid Abraham Williams, sef Dafydd Ellis ('Person Criceth ' wedi hynny), a fu yno o 1764 i 1767, ac Evan Evans ('Ieuan Brydydd Hir'), a fu yno am ran o'r flwyddyn 1771. Trwyddynt hwy y daeth Abraham i gymryd diddordeb mewn barddoniaeth Gymraeg. Yr oedd ganddo gopi o Ramadeg Siôn Rhydderch, a rhoddai ei fenthyg i'r bechgyn eraill oedd yn yr ysgol. Symudodd i weithio i chwarel y Penrhyn, a bu Gutyn Peris (Griffith Williams) yn lletya yn ei dŷ yng Ngwaun-y-gwiail, Llanllechid. Yn ystod y cyfnod hwn bu rhyw gweryl rhwng y ddau gyfaill a cheir ' Gutyn ' yn anfon ' Cywydd y Cymod ' ato yn 1791, lle y cydnebydd iddo dderbyn hyfforddiant ganddo yn y llinell ' Dygaist im ramadegau.' Mewn cywydd arall at ' Gwilym Peris ' dywaid Gutyn mai Abraham Williams oedd eu hathro ill dau.
Yn 1793 hwyliodd y ' Bardd Du ' i America gan lanio yn Philadelphia, ond symudodd yn fuan i New York lle bu ei wraig farw o'r clefyd melyn. Priododd eilwaith a symudodd i Essex County, New Jersey, yn 1797, a dywaid Rowland fab Owen, a fu'n chwilio am hanes y bardd yn yr America, ar sail yr hyn a glywodd gan ei ferch, Catrin, iddo sefydlu yn Dorence, Luzerne County, Pennsylvania, yn 1798, lle prynodd dir a gosod melin i lifio coed ar yr afon, a gwneuthur cadeiriau i'w gwerthu. Dangosodd Catrin gadair o waith ei thad iddo; dellt hickory oedd ei gwaelod, a dywedodd iddi waelodi cannoedd o gadeiriau pan oedd yn llances. Credai Rowland fab Owen fod tuedd yn Abraham Williams at y Bedyddwyr pan oedd yng Nghymru ond iddo ymuno â'r Wesleaid yn America. Yn 1816 symudodd drachefn i Grist Flatts, lle ar ochr orllewinol i'r afon Susquehanna, a gwnaeth weithdy yn y fan honno fel cynt. Yn 1828 aeth i gyfarfod ynglŷn ag etholiad Andrew Jackson, y gŵr a ddewiswyd wedyn (1829) yn arlywydd yr Unol Daleithiau, ond bu'r daith yn ormod iddo, a bu farw yn fuan wedyn. Claddwyd ef mewn mynwent yn agos i'w dŷ, ac ar garreg ei fedd torrwyd: 'Abraham Williams, Died Dec. 27 1828, Aged 73 yrs. 3 m. 9 dys.' Daethai chwedl ddi-sail i Gymru iddo farw cyn 1816 a chanodd 'Gutyn Peris' awdl-farwnad iddo (Ffrwyth Awen, 60). Cafodd Abraham Williams felly ddarllen ei farwnad ei hunan, ac yn ' Cywydd yr Adfail,' a anfonodd i Gymru o'r ' goedwig dywyll ar lan afon fawr Susquehana, neu afon hir a cham, Mai 30, 1819, ' cawn gyfeiriad at y farwnad annhymig a darlun da o'r bardd yn tynnu ar derfyn y daith wedi ei grwydro pell.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.