Ganwyd yn Nhyn'r-aelgerth; Llanberis. Aeth i fyw i'r Waun Fawr wedi treulio ei ieuenctid yn crwydro llethrau'r Eryri. Yn y Waun Fawr yr oedd ar hen galangaeaf (12 Tachwedd) 1802, a chyfeiria ' Dafydd Ddu Eryri ' ato fel un o'r rhai a ganodd awdl ar ' Dedwyddwch ' ar gyfer cyfarfod y beirdd a gynhaliwyd yn Llanddeiniolen y pryd hwnnw. Disgrifir ef fel 'gŵr priod, cloddiwr llechi, genedig ymhlwyf Llanberis eithr yn byw yn awr yn y Waun Fawr.' Canodd awdl ar y testun 'Rhagluniaeth' a osodwyd i feirdd Arfon ar gyfer cyfarfyddiad y beirdd yn y Bontnewydd, Llanwnda, yn 1803 gan Humphrey Thomas, brawd ' Dafydd Ddu Eryri.' Yn 1804 anfonodd awdl ar ' Ynys Prydain ' i eisteddfod y Gwyneddigion, ond ' Dewi Wyn o Eifion ' a enillodd y bathodyn y pryd hwnnw. Yn 1813 cyhoeddodd ' Gwilym Peris ' ei waith barddonol o dan y teitl Awengerdd Peris, a cheir yr awdlau a enwyd i gyd ynddo. Symudodd i fyw i Landygai yn ddiweddarach, ac yr oedd mewn cyfathrach agos yno â ' Gutyn Peris.' Ceir cywydd i annerch ' Gwilym ' o waith ' Gutyn ' yn yr Awengerdd a chywydd ateb ' Gwilym ' i'r cywydd hwnnw yw'r peth mwyaf diddorol a ysgrifennodd. Ynddo disgrifir ardal Llanberis a'r Cwmglas Mawr, cartref Abraham Williams, ei athro cyntaf ef a ' Gutyn,' ac yna disgrifir ' Dafydd Ddu,' 'eu hail- athro,' a daw cyfeiriad at John Morgan, y curad ' yn y lle yn gweini llan.' Bu ' Gwilym Peris ' farw yn 1847 a chladdwyd ym mynwent Llanllechid.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.