Ganwyd yn Stangrach, Llanfynydd. Dywed Pantycelyn ar ddalen-deitl ei farwnad iddo farw 'yn y Driugeinfed Flwyddyn o'i Oed' ond yr unig gofnod yng nghofrestr y plwyf yw un am fedyddio un ' Gulielmus filius Jonathan David,' 24 Awst 1729. Ni wyddys ym mhle'r addysgwyd ef na pha bryd y cafodd ei ordeinio. Dywedir iddo ymsefydlu'n gurad yn Llanfihangel Ynys Afan yn 1754. Gwelir ei enw gyntaf yng nghofrestr Llanilltud Nedd yn Rhagfyr 1762; bu'n gurad yno hyd 1769 neu 1770. Collodd ei le, meddir, oherwydd ei gyswllt â'r Methodistiaid. Ceir ei enw'n aml yng nghofrestr Llangiwc o 1771 hyd 1775. Ailgododd hen gapel anwes Gyfylchi yn 1776 a gweinidogaethodd yno weddill ei oes. Teithiodd a phregethodd lawer dros Gymru gyda'r fath arddeliad nes i'w frodyr dybied ei fod yn addas i arolygu seiadau sir Benfro ar farwolaeth Howel Davies. Canodd emynau hefyd a chyhoeddwyd ' Rhai Hymnau o Fawl i'r Oen ' o'r eiddo yn llyfr Dafydd William, Myfyrdod Pererin, … (Caerfyrddin, I. Daniel, d.d.); ceir dau emyn o'r eiddo yn Nodau y gwir Gristion … (Caerfyrddin, I. Daniel, d.d.): Tybir mai ef a drosodd i'r Gymraeg lyfr John Newton, Chwech ar Hugain o Lythyrau ar Destynau Crefyddol, gan Omicron (Caerfyrddin, J. Ross, 1777). Bu farw 17 Awst 1787, a chaddwyd ef ym mynwent S. Thomas, Castell Nedd. Canwyd marwnadau i'w goffadwriaeth gan Ddafydd William, Peter Williams, Pantycelyn.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.