Ganwyd ym mhlwyf Llanedi Sir Gaerfyrddin. Ef, o bosibl, yw'r David William, 'exhorter in Llanfynydd' a aeth i gadw ysgol, yn ôl adroddiad James Williams i'r sasiwn Fethodistaidd, yn 1743. Gwyddys ei fod yn gynghorwr, a hawdd yw ei gymysgu â David Williams, Llyswyrny. Trigai yn 'Llandeilo fach, yn Sir Forgannwg' pan gyhoeddodd ei lyfryn cyntaf yn 1760, ond 'gynt o Landeilo Talybont' sydd ar ddalen-deitl llyfryn a gyhoeddodd yn 1777 'yn y 56 o Oedran, a thri Mis.' Bu'n athro cylchynol yma a thraw am rai blynyddoedd. Hanoedd ei wraig o ffermdy Nant-y-moel, plwyf Llangyfelach (yr oedd iddo fab, Israel William, yn Llangyfelach), ac yn ôl pob hanes gwraig annynad oedd hi. Dywedir mai o'i hachos y bu raid iddo ymadael â'r Methodistiaid. Ymunodd â'r Bedyddwyr, a bedyddiwyd ef wrth bont Llanbedr-y-fro, Morgannwg, 29 Mehefin 1777. Yr oedd yn un o sefydlwyr eglwys Fedyddiedig Croes-y-parc ac yn bregethwr ynddi. Bu farw 1 Hydref 1794, a'i gladdu yng Nghroes-y-parc.
Y mae ei emynau (megis 'Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau', etc.) mewn bri mawr o hyd. Ei gyhoeddiad cyntaf oedd Golwg y Fyddloniaid ar Degwch a Gogoniant Jesu Crist (Caerfyrddin, 1760). Cyhoeddodd gyfres enwog wedyn yn dwyn y teitl Gorfoledd ym Mhebyll Seion (c. 1760-2, Caerfyrddin; 1777, Caerfyrddin; 1778, Aberhonddu; a 1778, Aberhonddu). Cyhoeddwyd y rhannau yn un gyfrol dan yr un teitl yn 1782 (Aberhonddu), a 'Trydydd Argraffiad' gydag ychwanegiad yn 1786 (Caerfyrddin). Ceir argraffiad Saesneg yn 1779, sef Joy in the Tents of Zion (Aberhonddu). Llyfrynnau eraill o'r eiddo yw Diferion o Ffynnon Iechydwriaeth (Caerfyrddin, 1777), Hymnau Priod-ferch y Brenin Alpha (Caerfyrddin, d.d.), Gwin i'r Diffygiol (Caerfyrddin, d.d.), a Myfyrdod y Pererin (Caerfyrddin, d.d.). Cyhoeddodd rai caneuon hefyd, ynghyd â nifer o farwnadau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.