Ganwyd yn Is-coed, Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin, mab William Dafydd. Brawd iddo oedd Richard William Dafydd, y cynghorwr. Daeth i Forgannwg yn ieuanc yn was i Christopher Bassett, ieu., Aberddawen, a dechreuodd gynghori gyda'r Methodistiaid c. 1742. Nid oes sicrwydd ai ef oedd y David Williams a benodwyd yn gynghorwr preifat yn sasiwn Watford, 1743, ond gwyddys iddo bregethu llawer yn ddiweddarach yn y Gogledd. ' Gŵr tirion ' oedd efe,' meddai John Evans o'r Bala, ' a phregethwr hynod o iraidd a gwlithog '; ychwanega Robert Jones, Rhos-lan, ei fod yn ddiwinydd da. Aeth i fyw i bentref Llyswyrny, gerllaw'r Bont-faen, i ofalu am fan seiadau 'r ardal, a phriododd ag Elizabeth, merch Evan Prichard o'r Collennau. Ar gyngor Daniel Rowland, meddir, urddwyd ef yn weinidog yn Aberthyn, yn yr un dull ag ordeiniad Morgan John Lewis a Thomas William. Bu hynny ond odid yn ystod blynyddoedd yr ymraniad Methodistaidd. Cadwodd ei gyswllt â'r Methodistiaid, er hynny; mynychai'r sasiynau a'r seiadau, a phregethai 'n gyson ymhlith y Methodistiaid. Cafodd drafferth yn Aberthyn gan Antinomiaeth, Sandemaniaeth, a Sabeliaeth yn eu tro. Bu farw 5 Mai 1792 ' yn 75 oed, ac ef oedd y cyntaf i'w gladdu gan David Jones, Llan-gan, ym mynwent Salem, Pen-coed.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.