Brodor o Landyfaelog, Sir Gaerfyrddin, a brawd i David Williams, Llyswyrny. Dywedir iddo bregethu ym Môn yn 1740 a chael triniaeth arw yno. Gwyddys yn sicr ei fod yn cynghori yn 1742, a phenodwyd ef yn sasiwn Llanddeusant, 1743, i arolygu seiadau yn Sir Gaerfyrddin. Cymerth ran yng ngwrthryfel John Richard Llansamlet, yn erbyn trefniadau'r sasiwn yn 1743, ac ysgrifennwyd ato i'w ddarbwyllo gan Whitefield a Howel Harris. Penodwyd ef yn ymwelydd seiadau Gorseinon a Phenbre yn 1744. Gwyddys ei fod yn Llandyfaelog yn 1744, a chyfarfu Thomas William ag ef yno yn 1747. Cawn ef yn pregethu yn Nhrefeca yn 1752 a dyna'r olwg olaf arno. Ymddengys iddo ymsefydlu yn Abertawe, a bu'n gefn i'r seiat fore yn y dref.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.