RICHARD, JOHN (fl. 1743-84), cynghorwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac emynydd

Enw: John Richard
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynghorwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Gomer Morgan Roberts

yn trigo yn Llansamlet, Sir Forgannwg. Enwir ef fel cynghorwr yn sasiwn Llanddeusant, 1743, a gellir dilyn ei hynt yn y gwaith am lawer o flynyddoedd. Yn yr ymraniad rhwng Howel Harris a Daniel Rowland cymerodd blaid y cyntaf ond cefnodd arno'n fuan gan ymuno â phobl Rowland. Gwyddys ei fod yn aelod o sasiwn Llangeitho yn 1778. Y mae cofnod am gladdu John Richard yng nghofrestr Llansamlet 26 Rhagfyr 1784. Cyhoeddodd ddau lyfryn yn 1747, sef Hymn Fuddjol ac Angenredjol a Hymnau Byddiol, &c., ill dau wedi ei hargraffu yng Nghaerfyrddin. Nid oes dim gwerth yn ei emynau; priodolwyd hwy ar gam i John Richards o'r Bryniog Uchaf a gweler dan John Richard(s). Y mae nifer o'i lythyrau yn llawysgrifau Trefeca.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.