Yr oedd yn aelod o eglwys Cefnarthen, Sir Gaerfyrddin, ac addysgwyd ef ond odid yn athrofa Rhys Prydderch, Ystradwallter. Urddwyd ef yn weinidog i eglwysi Cefnarthen a Chwm-y-glo, Merthyr Tydfil, yn 1698. Arminiad ydoedd o ran ei ddaliadau diwinyddol, a bu hynny'n achos o derfysg rhyngddo ag aelodau Calfinaidd yr eglwysi. Crewyd rhwygiadau ynddynt ar ôl ei ddydd (gweler dan Davies, James, a fu farw 1760). Bu farw 25 Mai 1730, yn 63 oed, ac urddwyd John a David Williams yn weinidogion i Gefnarthen. Gwyddys fod John yn fab iddo, a thebyg fod David yntau o'r un gwehelyth. Yr oedd y Williamsiaid yn gryf yng Nghefnarthen, ac aelodau o'r tylwyth oedd Morgan Williams, Ty'n-coed, ysgrifennydd medrus yr eglwys ac un o leygwyr amlycaf yr Ymneilltuwyr yn Sir Gaerfyrddin, a William Williams, Tredwstan, ei frawd; a John Williams, Cefncoed, tad Williams, Pantycelyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.