Ganwyd D. M. Phillips yn 1863 ym Mhant-y-gwin, Llan-y-crwys, rhwng Mynydd Cellan ac Afon Twrch, Sir Gaerfyrddin, yn fab Rees ac Elizabeth Phillips. Symudodd y teulu i Ystrafellte lle gweithiodd fel gôf yng ngefail Pontsyll, ger Aberhonddu.
Dechreuodd bregethu ac fe'i haddysgwyd yn Nhrecynon, Aberdâr, dan hyfforddiant yr Undodwr Rhys Jenkin Jones ac yng Ngholeg Prifysgol Deheudir Cymru a Mynwy, Caerdydd, lle'r astudiodd athroniaeth dan gyfarwyddyd Dr W. R. Sorley a'r Athro J. S. Mackenzie.
Tra oedd yn y coleg derbyniodd alwad i eglwys Libanus, Tylorstown, yn y Rhondda Fach ac fe'i hordeiniwyd ym Maesteg yn 1892. Gwasanaethodd ei eglwys am dros hanner canrif, gan ymroi'n ddiwyd fel bugail, addysgwr a llenor. Cynhaliodd ddosbarthiadau Beiblaidd ac ymunodd ag Ysgol Feiblaidd R. B. Jones yn y Porth, lle darlithiodd mewn athroniaeth, rhesymeg, diwinyddiath, moeseg ac anianeg. Yn 1933 fe'i hetholwyd yn Llywydd Cymdeithasfa'r De ac yn Llywydd Henaduriaeth Dwyrain Morgannwg yn 1941. Bu hefyd yn arholwr yn yr Ysgolion Sul ddwywaith a Choleg Diwinyddol Cherra yn yr India. Wedi marwolaeth R. B. Jones yn 1936 daeth yn brifathro'r coleg yn y Porth a rhannodd ei amser rhwng bod yno ac yn ei eglwys.
Daeth D. M. Phillips i'r Rhondda mewn cyfnod cymdeithasol, diwydiannol a diwinyddol cyffrous pan ddatblygodd rhyddfrydiaeth ddyneiddiol a moderniaeth a gysylltid ag astudiaethau gwyddonol a thechnolegol ac a seiliwyd ar resymoliaeth y ddeunawfed ganrif. Effeithiodd twf sosialaeth ac uwchfeirniadaeth hefyd yn arw ar astudiaethau Beiblaidd ac ar weithgaredd yr eglwysi a maint eu hoedfaon. Llafuriodd ef yn galed fel gweinidog ac awdur i amddiffyn Calfiniaeth uniongred - sail ei gynnyrch llenyddol - mewn cyfnod pan oedd rhyddfrydiaeth ddiwinyddol yn bygwth hynny yn yr eglwysi.
Ar y cyd â Thomas Rees, Merthyr, cyhoeddodd Cofiant a Phregethau y diweddar Barch David James, Llaneurwg (1895), a dilynwyd hynny gan Hau a Medi (1910), casgliad o bregethau W. E. Prytherch, Abertawe, a Pregethau y diweddar Barch Edward Matthews, Ewenni (1927). Yn 1901 ymddangosodd Athroniaeth y Meddwl, cyfrol swmpus a'r gyntaf i drafod seicoleg yn y Gymraeg, astudiaeth y dywedodd Dr Sorley am ei awdur 'He has taught psychology to speak Welsh!' Yn 1903 cyhoeddodd Egwyddor Moesol Gynghanedd, neu y Ddeddf a'r Deg Gorchymyn, ar ffurf esboniad ar y gorchmynion, ac fe'i cyflwynodd i'w ddosbarth diwinyddol yn Tylorstown. Daeth o dan ddylanwad y Diwygiad (1904-5) a chyfrannodd adroddiadau maith yn Y Goleuad ar gyfarfodydd diwygiadol yn y de a'r gogledd. Yn 1906 ymddangosodd Evan Roberts, the Great Welsh Revivalist and His Work, cyfrol a gyfieithwyd i dair iaith, a'r fersiwn Gymraeg, Evan Roberts a'i Waith yn ymddangos yn 1912. Yn 1908 ymddangosodd Athroniaeth Anfarwoldeb, cyfrol drwchus arall ar y profiad o anfarwoldeb yr enaid. Ynghyd â Dynamic Preaching (1935) cyfrolau i amddiffyn uniongrededd oedd y rhai mwyaf o'i eiddo.
Ei ddiddordeb mewn astudiaethau Beiblaidd a arweiniodd at argraffu Damhegion Crist (1914) a deuddeg o esboniadau ar yr efengylau a'r epistolau (1903-23). Golygodd Y Deonglwr, a gydag Evan Davies, Trefriw, Y Lladmerydd, a chyfrannodd ysgrifau ar bynciau diwinyddol mewn nifer o gylchgronau. Teithiodd lawer i'r Dwyrain Canol, yr Eidal, Ffrainc a Gogledd America, ac yn 1925 cyflwynwyd iddo Anerchiad ar ffurf Albwm gan Gymry America. Yn 1902 enillodd ddoethuriaeth yng Ngholeg Prifysgol Wooster, Ohio, am astudiaeth o athroniaeth foesol Dr Richard Price. Cymaint oedd ei egni a'i ymroddiad i fugeilio'i braidd yn ddi-ball mae'n rhyfeddol sut y gallai gyhoeddi gynifer o gyfrolau ac ysgrifau.
Priododd ddwy waith, (i) Louisa Mary David, Pen-y-bont-ar-Ogwr (1895), a (ii) Margaret Williams, Bryncoch, Llanwrda (1912). Ymddeolodd o'i ofalaeth ym Mai 1940 a bu farw yn ddisymwth mewn seiat ymweliad yn Seion, Pont-y-gwaith, nid nepell o'i gartref, ar 20 Ionawr 1944. Fe'i claddwyd ym Mynwent Gyhoeddus Llethr Ddu, Trealaw.
Dyddiad cyhoeddi: 2012-02-06
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.