DAVIES, EVAN (1842 - 1919), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor

Enw: Evan Davies
Dyddiad geni: 1842
Dyddiad marw: 1919
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn nechrau 1842, yn Aberangell; aeth i weithio ar y tir yn 10 oed, ond yn 17 oed aeth yn chwarelwr. Yr oedd ganddo ddiddordeb byw iawn yn hanes a llenyddiaeth ffiniau Meirion a Maldwyn er yn llanc. Dechreuodd bregethu yn 1865; aeth i Goleg y Bala yn 1868; ac yn 1873 ordeiniwyd ef yn weinidog ar Langynog. Symudodd i Lanarmon Dyffryn Ceiriog, fis Tachwedd 1875, ac oddi yno yn 1879 i Drefriw, lle y bu weddill ei oes. Bu'n llywydd cymdeithasfa'r Gogledd yn 1914; ond ei brif nodwedd oedd ei ddiwydrwydd fel llenor. Am fwy na 30 mlynedd, golygodd Y Lladmerydd gyda John Morgan Jones o Gaerdydd. Ef a olygodd weithiau 'Tafolog' (Richard Davies) ac a sgrifennodd gofiannau Dafydd Dafis, Cywarch, a Joseph Thomas, Carno, heblaw nifer o fân lyfrau crefyddol a rhyw gymaint o brydyddiaeth. Bu farw 10 Ionawr 1919, yn 77 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.