THOMAS, JOSEPH (1814 - 1889), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Joseph Thomas
Dyddiad geni: 1814
Dyddiad marw: 1889
Priod: Margaret Thomas (née Owen)
Rhiant: Mary Thomas (née Morris)
Rhiant: Edward Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 17 Medi 1814 yn y tolldy yn Llangynog (Maldwyn), yn fab i Edward Thomas (o ddyffryn Nantlle), chwarelwr, a'i wraig Mary (Morris). Ychydig ysgol a gafodd, ac aeth i weithio yn y chwarel. Gafaelwyd ynddo gan y mudiad dirwest, ac areithiai ar ddirwest hwnt ac yma. Ddiwedd 1840, mewn cyfarfod dirwest yn Llwyneinion gerllaw'r Bala, yr oedd Lewis Edwards yn gwrando arno; cymhellodd ef i ddyfod i Goleg y Bala ac i ddechrau pregethu - aeth yntau i'r coleg yn 1841. O Hydref 1843 hyd ddiwedd 1846 bu'n cynorthwyo Edward Price yn Birmingham a Bilston; bwriodd 1847 yn arolygu achosion y Methodistiaid Calfinaidd yng nghylch Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Fis Chwefror 1848, priododd â Margaret Owen (bu hi farw 1852) o Garno, ac yno y bu weddill ei oes; ordeiniwyd ef yn 1848. Araf, ar waethaf ei boblogrwydd mawr fel pregethwr, fu ei esgyniad i brif gadeiriau ei gyfundeb - nid cyn 1868 y cafodd gadair ei gymdeithasfa, ac yn 1878 y bu'n llywydd y gymanfa gyffredinol. Bu farw 14 Ionawr 1889, a chladdwyd yng Ngharno. Yr oedd yn ddyn tal, cadarn, hardd, hynod am ei bwyll, a'i graffter i adnabod dynion. Yn ei gyfnod cyntaf, cyfansoddai ei bregethau'n ofalus, a'u traddodi heb fawr ysgafnder, ond ymddengys i ddiwygiad 1859 ei arwain i newid ei ddull; dewisodd bellach bregethu'n 'ymddiddanol,' a thaflodd yr awenau ar war y ffraethineb a'r gwreiddioldeb a'i gwir nodweddai. Yn wir, yr arabedd hwn, llawn o synnwyr cyffredin cryf, a ddeil i gadw ei enw'n fyw yng nghof gwlad - diamau hefyd i'w 'dafod dew' helpu i hoelio'i ddywediadau ar gof ei wrandawyr. Gynifer yn wir o'i ddywediadau pert sydd eto ar gadw nes aethpwyd ers tro mawr i briodoli iddo ef 'bethau da' na phioedd ef mohonynt.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.